Mae 17 o gŵn wedi cael eu hachub cyn iddyn nhw allu cael eu cludo ar fferi o Iwerddon i Gymru.
Roedd pryderon ar ôl i’r awdurdodau ddod o hyd iddyn nhw mewn bocs ceffylau oedd i fod i gael ei gludo o Rosslare i Abergwaun.
Roedd amheuon hefyd nad oedd dogfennau perthnasol ar gyfer yr anifeiliaid, sy’n un o ofynion y gyfraith.
Mae’r cŵn yn nwylo’r awdurdodau ers neithiwr (nos Lun, Mai 11), a hynny’n dilyn cyrch ar y cyd rhwng yr ISPCA, SPCA Wexford a Chyngor Sir Wexford.
Achos arall
Dyma’r ail achos o fewn wythnos.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth yr awdurdodau feddiannu 15 o gŵn, gan gynnwys dwy oedd yn feichiog a chŵn bach, ynghyd â chathod bach yng Nghanolbarth Lloegr.
Mae’r ISPCA yn annog y cyhoedd i gysylltu â nhw os oes yna amheuon am gyflwr unrhyw gi.