Mae Andrew RT Davies, yr Aelod Ceidwadol o Senedd Cymru, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford yn galw arno i newid polisi Llywodraeth Cymru ar weithgareddau megis golff, tenis a physgota yng Nghymru.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn caniatau’r mathau yma o weithgaredd yn Lloegr o yfory (dydd Mercher, Mai 13) ymlaen, ond dyw’r newidiadau heb gael eu cyflwyno yng Nghymru.

“Mae polisi Llywodraeth Cymru ar ymarfer corff tu allan ag ymbellháu cymdeithasol yn anghyson a dryslyd. Yn fyr, mae’n llanast,” meddai Andrew RT Davies.

“Tra bod y Prif Weinidog yn cael beicio drwy barc prysur, dyw pobol dal ddim yn cael chwarae golff, tenis na mynd i bysgota yng Nghymru wrth gadw at reolau ymbellháu cymdeithasol. Mae’n nonsens.”

Yn y llythyr, mae’n cwyno fod nifer o’i etholwyr “wedi cysylltu â mi yn y dyddiau diwethaf wedi eu synnu gyda graddfa’r anghysondeb yng Nghymru.”

Ond yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru i’r wasg heddiw, pwysleisiodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething nad yw’r rheolau wedi newid yma.

“Dwi’n gwybod fod rhai pobol yn galw am hyn, ond dyw Llywodraeth Cymru heb godi cyfyngiadau ar chwarae golff nac wedi newid y rheolau,” meddai.