Mae 16 yn rhagor o bobol wedi marw yn sgil y coronafeirws yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’n golygu bod cyfanswm o 1,132 wedi marw erbyn hyn, yn ôl eu hystadegau, sy’n wahanol i ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae 105 o achosion newydd wedi’u hadrodd, gan fynd â’r cyfanswm i 11,573.

Mae’r ffigurau go iawn yn debygol o fod dipyn yn uwch oherwydd y ffordd mae profion yn cael eu cynnal a’u cofnodi.