Mae Vaughan Gething wedi manteisio ar gynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru i wfftio honiadau yn y Sun ei fod e wedi torri rheolau gwarchae’r coronafeirws dros y penwythnos.

Fe ddaeth i’r amlwg fod y papur newydd yn bwriadu cyhoeddi llun ohono fe, ei wraig a’i fab ifanc gyda’r awgrym eu bod nhw wedi torri’r rheolau.

Wrth ymateb i gwestiwn oedd yn gofyn a oedd o’n cadw at reolau ymbellháu cymdeithasol, ac a oedd o wedi aros yn lleol, dywedodd Vaughan Gething nad oedd wedi torri’r rheolau.

“Yr ateb i’r holl gwestiynau ydi oeddwn, mi es i allan am dro gyda fy nheulu,” meddai.

“Roedden ni’n lleol, mae o’n dro rydym yn ei wneud o dro i dro ac fe stopion ni i brynu bwyd ar y ffordd, mae’r holl bethau yma o fewn y rheolau ac felly dwi ddim mewn unrhyw ffordd wedi mynd yn erbyn y canllawiau.”

Esboniodd Vaughan Gething ar Twitter ei fod e a’i deulu wedi stopio i brynu sglodion.

Prif Swyddog Meddygol ddim am i bawb wisgo masgiau

Yn ystod y gynhadledd, mynnodd Vaughan Gething nad yw Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, “yn awgrymu y dylai pawb wisgo masgiau wyneb neu orchuddio’r wyneb.”

“Mae o’n credu y dylai fod yn fater o benderfyniad personol,” meddai, gan ychwanegu y byddai Dr Frank Atherton yn gwneud datganiad am y mater yn nes ymlaen ddydd Mawrth (Mai 12).

Capasiti Profion yn cynyddu

Dywedodd Vaughan Gething wrth y gynhadledd ddyddiol yng Nghaerdydd fod capasiti profi dyddiol Cymru wedi cyrraedd 5,330 bellach.

Roedd yn cydnabod, fodd bynnag, fod y nifer sy’n cael eu profi’n ddyddiol yn llawer iawn is – rhwng 1000 a 1500 ar wahanol ddiwrnodau.

Dangosodd ffigyrau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Llun (Mai 11) fod 49,583 o brofion wedi cael eu cynnal ar 42,375 o bobol hyd yn hyn, gydag 11,468 o brofion positif.

Mae ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 1,641 o bobol bellach wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru.

Difaru sylwadau Boris Johnson

Dywed Vaughan Gething ei fod yn difaru nad oedd sylwadau’r Prif Weinidog Boris Johnson am reolau’r gwarchae yn fwy clir, gan bwysleisio eto bod y rheolau yn wahanol yma yng Nghymru.

“Er iddo gyfeirio ato’i hyn fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig sawl gwaith yn ei ddatganiad, doedd y newidiadau gafodd eu cyhoeddi ganddo ddim ond yn berthnasol i Loegr,” meddai.

“Dwi’n difaru nad oedd o’n fwy clir ar y pwynt hwn.”