Mae tri Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru wedi croesawu canllawiau newydd Llywodraeth Cymru sy’n atgyfnerthu’r angen i bobol Cymru aros gartref, aros yn ddiogel a gwarchod y Gwasanaeth Iechyd.

Mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol hefyd yn galw ar holl drigolion gwledydd Prydain i barchu’r rheolau a’r mesurau yng Nghymru er mwyn gwarchod pawb.

Yr wythnos hon, mi fyddan nhw’n ymdrechu’n galed, ynghyd â’u partneriaid, i sicrhau bod pobol yn derbyn y wybodaeth gywir.

Mesurau yn berthnasol i bawb

“Mae’r mesurau clir a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford ddydd Gwener yn berthnasol i’r rhai hynny sy’n byw yng Nghymru yn ogystal â’r rhai hynny sy’n bwriadu teithio dros y ffin i Gymru,” meddai Tegryn Jones, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

“Mae Cymru yn parhau i fod wedi llwyrgloi, ac fe ddylech aros gartref oni bai eich bod yn ymgymryd â gweithgareddau hanfodol.

“Golyga hyn hefyd na ddylech yrru i fynd allan i ymarfer corff, ac mai dim ond yn uniongyrchol o’ch cartref y dylech chi fynd allan i ymarfer, tra hefyd yn cadw at y Côd Cefn Gwlad.

“I’r rhai hynny nad ydynt yn byw o fewn pellter cerdded, mae’r neges gennym ni yn glir – peidiwch ag ymweld â Pharciau Cenedlaethol Cymru nes bydd canllawiau Llywodraeth Cymru i osgoi teithio diangen yng Nghymru wedi eu codi.

“Rydym yn deall fod y cyfyngiadau hyn yn anodd i bobl, ond y brif flaenoriaeth yw cadw ein trigolion, ymwelwyr a staff yn ddiogel.

“Edrychwn ymlaen at yr amser y cawn eich croesawu’n ôl i Barciau Cenedlaethol Cymru, ac yn bwysicaf oll, ein bod yn gwneud hynny pan allwn gadw pawb yn ddiogel.”

Ymarfer yn lleol

Bydd lleoliadau gwledig mwyaf poblogaidd Cymru – gan cynnwys Yr Wyddfa, Pen y Fan a Llwybr Arfordir Penfro – yn parhau i fod ar gau trwy ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru hyd nes yr ystyrir ei bod yn ddiogel i’w hail-agor.

“Golyga’r mesurau hyn yng Nghymru na chaiff pobol yrru i ymarfer corff yng Nghymru – waeth lle maent yn byw,” meddai Emyr Williams, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

“A bydd meysydd parcio a mynediad i’r safleoedd mwyaf poblogaidd ym Mharciau Cenedlaethol Cymru yn parhau i fod ar gau.

“Rydym yn annog ymwelwyr sy’n bwriadu dod i ddringo’r Wyddfa neu unrhyw gopaon a safleoedd poblogaidd eraill i ddilyn canllawiau’r llywodraeth, i aros gartref ac i ymarfer corff yn eu hardal leol – peidiwch â gwneud siwrnai ddiangen.

“Byddwn yn parhau i adolygu’r safleoedd caëedig yn wythnosol a dim ond yn agor safleoedd pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.”

‘Hynod fuddiol’

“Mae ymarfer yn yr awyr agored yn hynod fuddiol i lesiant corfforol a meddyliol ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hynny yn eu mân ddiwygiadau i’r ddeddfwriaeth ddydd Gwener sydd bellach yn caniatáu pobl i ymarfer corff o’u stepen drws mwy nag unwaith y dydd,” meddai Julian Atkins, prif weithredwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

“Gobeithiwn ein bod wedi egluro’r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ac fe hoffem ddiolch i chi am aros gartref, aros yn ddiogel a gwarchod y Gwasanaeth Iechyd.”