Mae dyn wedi ei gyhuddo o achosi damwain a laddodd pedwar o bobl ar ôl i gar blymio i lyn ger Llanidloes ym Mhowys ym mis Ebrill.

Cafodd Gordon Dyche, 24 oed o Lanidloes, ei gyhuddo heddiw o achosi marwolaeth y pedwar trwy yrru’n beryglus.

Bu farw Emyr Griffith, 66, Phyllis Hooper, 84, Peter Briscome a Liam Govier, y ddau yn 14 oed, o Bontypridd, yn y ddamwain.

Fe lwyddodd gyrrwr y car Peugeot Denise Griffith, 55, i oroesi’r ddamwain. Roedd mam Denise Griffith, ei gŵr a dau o’i feibion maeth yn dychwelyd adre ar ôl bod ar ymweliad â Machynlleth pan blymiodd eu car i’r llyn.

Fe fydd Dyche, sy’n fecanydd, yn mynd gerbron Llys Ynadon y Trallwng ar 22 Tachwedd.