Bydd achosion llys sy’n cynnwys rheithgor yng Nghymru a Lloegr yn ailddechrau wythnos nesaf, bron i ddeufis ar ôl cael eu gohirio yn sgil y pandemig coronafeirws.

Fe gyhoeddwyd ddydd Llun (Mai 11) fod yr Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Burnett yn mynd i ganiatáu  achosion llys sy’n cynnwys rheithgor o wythnos nesaf ymlaen – gyda mesurau arbennig mewn grym i sicrhau ymbellhau cymdeithasol a diogelwch.

“Mae’n bwysig bod cyfiawnder yn parhau i weithredu pryd bynnag mae hi’n bosib,” meddai’r Arglwydd Burnett.

Daeth y cyhoeddiad ar ôl anerchiad y Prif Weinidog Boris Johnson ddoe (Dydd Sul, Mai 10) a oedd yn amlinellu ei gynlluniau i lacio’r cyfyngiadau’n dros yr wythnosau nesaf.

Cafodd achosion llys newydd eu gohirio ar Fawrth 23 yn sgil y pandemig coronafeirws ac mae ymdrech wedi bod ers hynny i ddarganfod ffyrdd o gynnal yr achosion mewn modd diogel.

Ymysg y llysoedd cyntaf lle bydd rheithgor yn cael dychwelyd mae Llys y Goron Caerdydd.

Bydd staff y llysoedd yn gyfrifol am sicrhau bod mynedfaoedd ac allanfeydd yn cael eu goruchwylio yn ogystal â gwaith glanhau.

Bydd yr achosion yn cael eu cynnal gyda 12 aelod o’r rheithgor, er gwaethaf awgrymiadau blaenorol y gallai’r nifer gael ei ostwng.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Robert Buckland: “Rwyf yn hynod ddiolchgar i’r Arglwydd Brif Ustus, gweithwyr cyfreithiol, staff llysoedd a chydweithwyr ar draws y system cyfiawnder troseddol am eu dyfalbarhad mewn trafodaethau sydd wedi ein galluogi i gyrraedd y pwynt hwn.

“Gan ddod at ein gilydd yn yr ysbryd yma o gydweithio, gallwn sicrhau bod cyfiawnder yn parhau i weithredu mewn modd sy’n ddiogel i holl ddefnyddwyr y llysoedd.”