Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi canmol “cynllun clir” Boris Johnson ar gyfer Lloegr, ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth debyg ynglŷn â sut bydd y cyfyngiadau yn dod i ben yng Nghymru.

Ddoe (Dydd Sul, Mai 10) cyhoeddodd y Prif Weinidog, Boris Johnson newidiadau i’r cyfyngiadau er mwyn mynd i’r afael a’r coronafeirws yn Lloegr, gan gynnwys llacio’r cyfyngiadau ymarfer corff, caniatáu i bobl yrru i rywle i fynd am dro, a chaniatáu i bobol dorheulo mewn parciau.

Yng Nghymru fydd pobol yn gallu ymarfer corff mwy nag unwaith y dydd ac mae disgwyl i ganolfannau garddio ail-agor, ond fe bwysleisiodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod y neges “arhoswch adref” yn aros yr un fath.

Mae cryn feirniadaeth wedi bod i gyhoeddiad Boris Johnson nos Sul, gyda busnesau, undebau a’r heddlu yn dweud bod ei neges yn “ddryslyd”.

“Angen strategaeth glir”

Ond dywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: “Y gwahaniaeth mawr rhwng Cymru a Lloegr yw bod yna gynllun clir nawr yn Lloegr ar gyfer llacio’r cyfyngiadau, sy’n seiliedig ar wyddoniaeth ac yn amodol ar werth R yn gostwng ymhellach.

“Yn anffodus, hyd yn hyn, dydy’r Prif Weinidog Mark Drakeford heb osod cynllun tebyg ar gyfer Cymru.

“Mae angen i ni weld strategaeth glir i ddod a’r cyfyngiadau i ben gan Lywodraeth Cymru.”

“Angen gobaith”

Dywedodd Paul Davies wrth Radio Wales bod pobol yn “gorliwio’r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr.”

Yn ôl Paul Davies, “Roedd Boris Johnson yn rhoi rhywfaint o obaith i bobl ynglŷn â phryd y gallai’r cyfyngiadau ddod i ben yn Lloegr.”

Ychwanegodd: “Dydy’r neges heb newid. Mae angen i bob un ohonom aros gartref gymaint â phosibl a gweithio o gartref os gallwch wneud hynny.

“Ond ar ôl saith wythnos o gyfyngiadau mae angen gobaith ar bobl Cymru ynglŷn â sut a phryd y gallai’r cyfyngiadau ddod i ben – mae angen i Lywodraeth Cymru gyflawni hyn nawr.”

 

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.