Mae dyn 47 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio dyn 39 oed yn ardal Rhisga.

Cafodd yr heddlu eu galw i Sgwâr Llanarth am oddeutu 5.30 nos Wener (Mai 8) yn dilyn digwyddiad.

 

Cafodd dyn 39 ei drywanu yn ei gefn, ei frest a’i goes, ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle mae e mewn cyflwr sefydlog.

 

Mae’r dyn sydd wedi’i arestio’n cael ei holi yn y ddalfa.

 

Mae ymchwiliad ar y gweill, a dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad.