Dydy pedair gwlad Prydain ddim wedi “cytuno na thrafod” slogan newydd Llywodraeth Prydain yn galw ar bobol i “aros yn effro” i’r risg o gael eu heintio â’r coronafeirws.

Daw sylwadau Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wrth i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, baratoi i lacio’r cyfyngiadau yn Lloegr.

 

Wrth baratoi i wneud ei ddatganiad am 7 o’r gloch heno (nos Sul, Mai 10), mae disgwyl i Boris Johnson newid ei neges i “aros yn effro” yn hytrach nag “arhoswch gartref”.

 

“Dw i wedi gweld y negeseuon yn briffio’r cyfryngau a’r neges sydd wedi newid ar gyfer Lloegr,” meddai Vaughan Gething.

 

“Ni fu cytundeb na thrafodaeth pedair gwlad ar hyn.

“Dydy neges Llywodraeth Cymru ddim wedi newid.

“Arhoswch gartref ac os ydych chi’n mynd allan, cadwch at y rheolau ymbellháu cymdeithasol.”