Wylfa, Ynys Mon
Mae  Llywodraeth Japan wedi dweud y bydd yn cymryd o leiaf 30 o flynyddoedd  i gau gorsaf ynni niwclear Fukushima Dai-ichi yn ddiogel.

Yn ôl swyddogion, mae Fukushima yn “eithaf sefydlog” bellach. Ond, mae Comisiwn Ynni Niwclear Japan wedi dweud y bydd yn cymryd o leiaf 30 mlynedd i ddad-gomisiynu’r orsaf yn ddiogel. Dyma safle’r ddamwain niwclear waethaf ers trychineb Chernobyl yn 1986. Mae degau ar filoedd wedi gorfod gadael eu tai yn yr ardal.

Yn sgil y cyhoeddiad mae Cymraes sydd wedi byw ar arfordir gorllewinol Japan ers dros ugain mlynedd wedi dweud wrth Golwg360 y byddai’n “poeni” am adeiladu gorsaf ynni niwclear newydd Wylfa B yn Ynys Môn.

Mae dros saith mis ers y daeargryn a’r tsunami laddodd o leiaf 23,000 o bobol yn Japan ac  mae’r wlad yn dal i ddod i delerau â’r hyn ddigwyddodd.

Mae Rhian Yoshikawa, Cymraes o Langefni’n wreiddiol, yn pryderu y byddai digwyddiad tebyg yn Sir Fôn yn “lladd amaethyddiaeth” gan ddinistrio’r ardal.

“Wedi gweld cymaint o lanast sydd wedi bod ar ôl y ddamwain niwclear a’r effaith mae hyn yn dal i gael ar fywydau miloedd o bobol, mi faswn i’n poeni am adeiladu gorsaf ynni niwclear yn unman,” meddai.

“Does dim sicrwydd  fod unrhyw orsaf niwclear yn 100% saff, hyd yn oed mewn ardal sydd ddim mewn peryg o gael daeargryn neu tsunami,” dywedodd.

“Os oes modd creu ynni trwy ffordd fwy gwyrdd, rwy’n credu y dylai’r llywodraeth edrych i mewn i hynny yn fwy manwl. Mi fuasai hyn yn creu gwaith hefyd. Mae ymbelydredd yn lladd amaethyddiaeth. Byddai’n broblem anferth tasa na ddamwain yn Sir Fôn.”

‘Llygredd yn y tir’

Yn ôl Rhian Yoshikawa,  sy’n  byw tua dwy awr i’r gorllewin o’r brifddinas Tokyo,  mae sefyllfa gorsaf niwclear Fukushima Dai-ichi wedi achosi i filoedd o bobl symud o’r ardal.

“Mae rhai wedi cael eu gorfodi allan am eu bod yn byw o fewn 20km i’r orsaf ac eraill wedi dewis mynd oherwydd yr ymbelydredd,” meddai.

“Bellach, am fod y sefyllfa yn yr orsaf yn gwella, yn araf, mae’r llywodraeth yn sôn am adael i bobol fynd yn ôl i rai ardaloedd, ond rhaid dadlygru’r tir gyntaf,” meddai.

“Y llygredd yn y tir yn hytrach nag yn yr aer (mae’r lefelau yn yr aer yn saff) yw’r broblem fwyaf,” meddai’r Gymraes cyn dweud bod “rhaid codi haen uchaf y tir a’i gladdu yn ddyfnach.”

“Y broblem yw nad oes unrhyw le i’w gladdu felly mae hi’n mynd i fod yn broses eithaf hir,” ychwanega.

Record ‘campus’

Ond mae cynghorydd o Fôn, Bob Parry eisoes wedi dweud wrth Golwg360 bod “wir angen gwaith” a’r swyddi a ddaw yn sgil adeiladu ail atomfa niwclear Wylfa B ar Ynys Môn, sy’n un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng ngwledydd Prydain.

“Mae’r diwydiant  niwclear yn Sir Fôn mor saff â dim byd arall oherwydd  does yna erioed ddamwain wedi bod yn y Wylfa, mae eu record nhw’n gampus,” meddai .

“Y dewis ydi – ydach chi eisiau golau ta ydach chi’n fodlon i’r wlad fynd i dywyllwch? Dyma fydd yn digwydd os na gawn ni o – fydd y cyflenwad trydan yn dod i ben. Bydd hyn yn golygu mwy o broblemau i’r diwydiant ac, wrth gwrs, bydd economi’r wlad yn dioddef. Mae’n rhaid i ni gael diwydiant niwclear yn y wlad yma neu bydd gennym ni ddim goleuni.”