Wrth i Gymru ystyried dyfodol y cyfyngiadau yn sgil y coronafeirws, mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, wedi canmol gwirfoddolwyr yng Nghymru ac wedi annog eraill i ymuno â nhw, gan ddweud y bydd angen eu cymorth yn fwy nag erioed yn ystod y misoedd nesaf.

Daw’r alwad wedi i fwy na 360 o bobl gynnig helpu Cyngor Sir Caerfyrddin i osod dodrefn ac offer ym mhedwar ysbyty maes y sir.

Roedd hyn 24 awr yn unig ar ôl i’r apêl am wirfoddolwyr gael ei wneud drwy Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) ar wefan Gwirfoddoli Cymru a phlatfform cysylltu Sir Gâr  (connect2carmarthenshire.org.uk platform).

Cafodd ei greu i gysylltu pobl sy’n cynnig cymorth â phobl y mae angen cymorth arnyn nhw, fel rhan o ymgyrch SirGâredig – Rhannu Caredigrwydd Sir Gâr.

Cronfa o wirfoddolwyr

Mae gwirfoddoli yng Nghymru yn digwydd ar sawl lefel.

Ar lefel genedlaethol, mae dros 30,000 o bobl wedi ymuno drwy wefan Gwirfoddoli Cymru, sef 16,000 yn rhagor ers Mawrth 1.

Ar lefelau rhanbarthol, lleol a chymunedol, mae miloedd yn rhagor yn cefnogi eu trefi, eu pentrefi a sefydliadau gwirfoddol yn eu cymunedau.

O ganlyniad, yn ôl y Llywodraeth, mae Cymru yn llwyddo i adeiladu cronfa o wirfoddolwyr a fydd yn gallu parhau i gefnogi pobl drwy’r cyfnod o dan gyfyngiadau symud a thu hwnt.

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd yr angen yng Nghymru am y gronfa hon o wirfoddolwyr, sy’n barod i helpu ar lefelau lleol, rhanbarthol, a chenedlaethol, yn fwy nag erioed o’r blaen yn ystod y misoedd nesaf, yn enwedig wrth i bobl, sydd wedi bod yn gwirfoddoli tra eu bod nhw ar ffyrlo,  ddychwelyd i’w gwaith.

“Mawr angen eich help”

“Mae haelioni pobl Cymru yn ysbrydoliaeth ac mae wedi fy syfrdanu,” meddai’r Dirprwy Weinidog, Jane Hutt.

“Dw i eisiau diolch i’r miloedd o wirfoddolwyr gwych sydd eisoes wedi ymuno yn yr ymgyrch i helpu eu cymunedau a sefydliadau yn y trydydd sector. Wrth i amser fynd heibio, ac wrth i anghenion newid, bydd y galw am eich cymorth yn fwy nag erioed.

“Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi canfod rôl i chi eich hunan, neu os ydych wedi cofrestru ond nad oes neb wedi cysylltu â chi eto – mae mawr angen eich help.

“Fel sydd wedi digwydd yn Sir Gaerfyrddin, bu ymateb gwych i’r galwad am gymorth ym mhob sir ar hyd a lled Cymru. Dw i wedi clywed llu o hanesion am lwyddiant o bob rhan o’r wlad, lle mae gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth enfawr i les eu cymunedau. Gan y bobl leol y mae’r wybodaeth orau am eu cymdogaeth a’r seilwaith lleol, felly nhw sy’n deall anghenion lleol orau.

“Ysbryd cymunedol”

“Mae’n wych gweld cynifer o bobl yn gwirfoddoli i helpu yn ystod y pandemig coronafeirws,” meddai Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Emlyn Dole.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bob un ohonoch sydd wedi cynnig eich help i sefydlu’r ysbytai maes hyn sydd mor hanfodol i’r Gwasanaeth Iechyd; dw i wir yn gwerthfawrogi ysbryd cymunedol pobl Sir Gâr.

“Dyma ichi nod SirGâredig, sef helpu pobl i gefnogi ei gilydd a dangos caredigrwydd, yn enwedig ar adegau cythryblus fel hyn.”

Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

“Mae digon o ffyrdd y gallai pobl helpu drwy wirfoddoli. Rydyn ni’n dal i wahodd pobl i gofrestru ar wefan Gwirfoddoli Cymru, a bydd y bobl hynny’n cael eu paru â sefydliadau gwirfoddol a darparwyr gwasanaethau lleol sydd angen sgiliau’r gwirfoddolwyr hynny.”