Llun: Wikipedia
Fe fydd yn rhaid cael goruchwyliaeth ymhob salon sy’n darparu gwlâu haul yng Nghymru o hyn ymlaen, wrth i reolau newydd gael eu cyflwyno yng Nghymru.

Mae pobol dan 18 eisoes wedi cael eu gwahardd rhag defnyddio gwlâu haul ers mis Ebrill eleni, ond o hyn ymlaen fydd salonau yn gallu cael eu herlyn os nad oes aelod o staff yn goruchwylio bob gwely haul sy’n cael ei ddefnyddio.

Mae’r Llywodraeth yn credu y bydd y camau diweddaraf yn lleihau lefelau canser y croen, gan wneud cwsmeriaid yn “fwy ymwybodol o effeithiau iechyd defnyddio gwlâu haul, fel y risg uwch o ganser y croen a niwed i’r llygaid.”

Awdurdodau lleol fydd â’r cyfrifoldeb am weithredu’r rheolau newydd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid o £122,000 ar gyfer 2011/12 er mwyn helpu awdurdodau i’w gweithredu.

Yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths AC, mae’r rheolau i’w croesawu gan “nad oes amheuaeth ymhlith arbenigwyr fod defnyddio gwlâu haul yn gallu bod yn niweidiol iawn.

“Mae melanoma yn math o ganser y croen sy’n datblygu mewn pobol ifanc, ac mae llosg haul yn cyfrannu at y risg o gael melanoma. Dyna pan mae hi eisoes yn drosedd i salon ganiatau, a chynnig, i rywun dan 18 oed ddefnyddio gwely haul.”

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, hefyd wedi canmol y rheolau newydd, gan ddweud eu bod yn “gam mawr ymlaen er mwyn diogelu pobol ifanc rhag y risg o gael canser y croen.

“Roedd Llywodraeth Cymru yn benderfynol o gyflwyno mesurau llymach drwy’r rheolau yma er mwyn sicrhau bod pobol dan 18 yn cael eu diogelu yng Nghymru, a hefyd er mwyn cyflwyno mesurau i ddiogelu ac addysgu rheiny dros 18 sy’n dewis defnyddio gwlâu haul.”

Mae’r rheolau newydd yn gwahardd salonau rhag defnyddio gwlâu haul heb eu goruchwylio, yn gwahardd salonau rhag gwerthu na llogi gwlâu haul i unigolion dan 18 oed, yn gofyn bod gwybodaeth iechyd penodol ar gael yn y salon, ac yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r salon ddarparu offer diogelu llygaid.

Gallai busnesau sy’n cael eu dal yn torri’r rheolau yng Nghymru wynebu dirwy o hyd at £20,000.

Dau gyngor yn rhoi deddfwriaeth ar waith

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gweithio gyda’r diwydiant gwlâu haul yn y ddwy sir trwy ddarparu cyngor a hyfforddiant i fusnesau er mwyn ateb gofynion y rheolau newydd.

Yn ôl y Cynghorydd Philip Evans, Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Rheoleiddio Conwy, prif bwyslais y Cyngor yw “diogelu defnyddwyr gwlâu haul masnachol a hefyd plant a phobol ifanc rhag y risg cynyddol o ddatblygu canser y croen.”

Yn ôl y Cynghorydd Sharon Frobisher, sy’n Aelod Arweiniol o’r Cabinet dros yr Amgylchedd yn Sir Ddinbych, “canser y croen yw un o’r ffurfiau mwyaf cyffredin o ganser a’n nod yw lleihau’r risg, yn enwedig i bobol ifanc, trwy ddefnyddio’r rheolau newydd i helpu i roi gwybod iddyn nhw am beryglon gorddefnyddio gwelyau haul a hefyd i sicrhau bod masnach gwlâu haul yn cael eu rhedeg yn briodol ac yn adlewyrchu’r newidiadau yn y gyfraith.”