“Dim llai na thrychineb” fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb masnach yn ystod pandemig y coronafeirws, yn ôl Plaid Cymru.

Daw ymateb Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, yn dilyn sylwadau Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, yn galw am ymestyn y cyfnod pontio am ddwy flynedd.

“Cyflwynodd Plaid Cymru gynnig gerbron Senedd San Steffan bron i ddau fis yn ôl yn galw am estyniad i’r cyfnod pontio gyda’r Undeb Ewropeaidd,” meddai Hywel Williams wrth golwg360.

“Yn yr argyfwng presennol, mae pobol Cymru yn disgwyl, a hynny gyda phob rheswm da, i holl sylw Llywodraeth Prydain fod ar ddod allan o argyfwng covid-19.

“Byddai gadael y cyfnod pontio heb gytundeb masnach mewn sefyllfa arferol yn her enfawr, ond bydd delio gyda hynny mewn cyd-destun pandemig rhyngwladol yn ddim llai na thrychineb.

“Mae’r argyfwng presennol yn dangos pa mor beryglus yw obsesiwn y Ceidwadwyr â thorri pob cysylltiad Ewropeaidd.

“Beth sydd angen rŵan yw sefydlogrwydd, a felly dyna pam mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Prydain i oedi’r trafod er mwyn canolbwyntio ar achub bywydau.”