Mae dynes wedi cael ei harestio yn dilyn “digwyddiad difrifol” yng Nghwm Rhondda.

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Tylacelyn.

Mae’r ddynes yn cael ei holi yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n gofyn i bobol gadw draw o’r ardal ar hyn o bryd.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth bellach wedi dod i law am y digwyddiad.

Cafodd busnesau lleol gais i gau eu drysau wrth i’r gwasanaethau brys gyrraedd y pentref.

Mae lle i gredu bod hofrennydd wedi glanio ar gae ger y pentref, a hynny ar ôl i ddynes fynd i mewn i’r siop Co-op yn gwaedu.

Fe wnaeth y ddynes ofyn i’r gweithiwr siop gau’r siop, ac fe ffoniodd y gwasanaethau brys.

Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans bellach wedi cadarnhau bod pedwar o bobol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty Athrofaol Caerdydd.