Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd â Thîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru wedi difrod i gynefin llygod y dŵr yng ngogledd ddwyrain Ynys Môn.

Roedd aelod o’r cyhoedd wedi hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn pryder fod difrod wedi’i achosi i gynefin llygod y dŵr. Ar ôl ymweld â’r safle roedd swyddogion amgylchedd wedi canfod fod gwaith clirio wedi’i wneud heb ganiatâd, fel sy’n ofynnol.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru bod mesurau ar waith er mwyn parhau i gynnal ymchwiliadau yn ystod y pandemig coronafeirws, sy’n dilyn canllawiau pellhau cymdeithasol y Llywodraeth.

“Caniatâd angenrheidiol”

Dywedodd Huw Jones, Arweinydd Tîm Amgylchedd Môn ac Arfon: “Mae gofyn cael caniatâd gennym ni er mwyn cynnal gwaith yn ymwneud â phrif afon. Os yw tirfeddianwyr yn dymuno gwneud gwaith mewn afon neu ar ei glannau, mae’n hollbwysig iddynt ofalu eu bod wedi derbyn y caniatâd angenrheidiol ymlaen llaw. Gallwn ni wedyn gynghori ar gyfyngiadau o ran bywyd gwyllt a’r amgylchedd yn ogystal â sicrhau nad yw’r gwaith yn cynyddu’r perygl o lifogydd.

“Mae’r drefn hon yr un fath er gwaetha’r argyfwng coronafeirws ac fel rhan o’n gwaith hanfodol yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn parhau i ymchwilio achosion lle bo amheuaeth o ddifrod.”

“Trosedd”

Ychwanegodd Rob Taylor, Rheolwr Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ymyrryd â rhywogaethau sydd wedi’u diogelu megis llygod y dŵr, neu ddifrodi eu cynefin, yn gallu bod yn drosedd o dan gyfraith y Deyrnas Unedig.

“Rydym yn delio gyda phob math o droseddau’n ymwneud â bywyd gwyllt a chynefinoedd ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r gwaith hwnnw’n mynd yn ei flaen yn ystod y cyfnod hwn er mwyn parhau i ddiogelu cefn gwlad a’r amgylchedd.”

Mae modd rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru am unrhyw ddigwyddiad amgylcheddol, drwy gysylltu â’r llinell gymorth ar 03000 65 3000.