Mae Mark Drakeford wedi amddiffyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chynnal profion mewn cartrefi gofal lle nad oes tystiolaeth o achosion neu amheuon fod achosion tebygol.

Mae’r llywodraeth dan bwysau ers tro i sicrhau bod pawb mewn cartrefi gofal yn cael eu profi, ac fe fu’n rhaid iddyn nhw wneud tro pedol rhannol yn dilyn pwysau.

Bellach, dim ond mewn cartrefi gofal lle mae achosion wedi’u cadarnhau neu eu tybio mae profion yn cael eu cynnal.

Fe fu Mark Drakeford yn amddiffyn ei lywodraeth wrth siarad â rhaglen Andrew Marr ar y BBC heddiw (dydd Sul, Mai 3).

“Y cyngor sydd gennym gan ein Prif Swyddog Meddygol yw, os nad oes coronafeirws o gwbl mewn cartref gofal, yna fydden ni ddim yn gwneud y defnydd gorau o’r profion sydd ar gael i ni pe baen ni’n profi’r holl breswyliaid a staff,” meddai.

Cefnu ar dargedau

Ganol mis Ebrill, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gefnu ar y targed o gynnal 5,000 o brofion coronafeirws bob dydd.

Mae Mark Drakeford wedi cyfiawnhau’r penderfyniad hwnnw.

“Na, doedd e ddim yn gamgymeriad,” meddai.

“Y teimlad ges i, a’r teimlad gafodd ei adrodd wrthyf gan bobol yn y rheng flaen oedd fod y rhif ei hun yn tynnu eu sylw [oddi ar eu gwaith].

“Dydy cynnal profion heb bwrpas na diben ddim yn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau cyfyng sydd gennym.”