Gallai ysgolion Cymraeg gael eu hagor cyn ysgolion eraill, yn ôl Mark Drakeford, prif weinidog Cymru.

Fe fu’n siarad ar raglen Andrew Marr ar y BBC, gan ddweud bod angen rhoi tair wythnos o rybudd i ysgolion er mwyn iddyn nhw baratoi i agor yn dilyn y coronafeirws ac felly, y gallen nhw agor yn raddol o fis nesaf.

Ond gan ei bod yn annhebygol y bydd pob ysgol yn gallu agor yn llawn ar y diwrnod cyntaf, mae’n dweud y bydd rhaid blaenoriaethu pwy fydd yn cael dychwelyd yn gyntaf.

Ymhlith y plant sy’n debygol o gael y flaenoriaeth, meddai, mae plant mewn ysgolion Cymraeg gan fod nifer helaeth o gefndiroedd di-Gymraeg, plant ag anghenion addysgol arbennig a phlant sy’n mynd o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd ym mis Medi.

Ond mae’n dweud na fydd neb yn cael dychwelyd oni bai ei bod yn ddiogel iddyn nhw wneud hynny.

Ysgolion Cymraeg

“Y cyngor gawson ni gan yr undebau llafur a’r awdurdodau addysg lleol yw y bydd angen o leiaf dair wythnos arnom o’r eiliad rydyn ni’n penderfynu [ailagor ysgolion] i’r eiliad pan fydd ysgolion yn gallu agor eto, felly rydyn ni’n sôn am fis Mehefin,” meddai Mark Drakeford.

“Mae gyda ni system addysg ddwyieithog yng Nghymru, lle mae’n bosib na fydd gan blant sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg sydd heb unrhyw Gymraeg yn cael ei siarad yn y cartref.

“A oes angen i ni gael y plant hynny’n ôl yn y byd addysg yn gynt?”

Anghenion arbennig a throsglwyddo o gynradd i uwchradd

Mae’n dweud bod trafodaethau ar y gweill hefyd am blant ag anghenion addysgol arbennig a phlant fydd yn mynd o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd ym mis Medi.

“Rydyn ni’n meddwl am ffyrdd y gallwn ni ddod â phobol ifanc ag anghenion addysgol arbennig yn ôl i’r byd addysg,” meddai.

“Rydyn ni’n meddwl yn arbennig am rai blynyddoedd – disgyblion blwyddyn 6 mewn ysgolion cynradd, plant fydd yn mynd i’r ysgol uwchradd ym mis Medi.

“Rydyn ni’n gwybod ei fod yn gyfnod arbennig, a’ch bod chi’n gwneud hynny gyda’ch ffrindiau dosbarth na fyddwch chi wedi’u gweld nhw ers rhai wythnosau bellach.

“A fydden ni’n gallu dychwelyd y plant hynny i’r ysgol yn gynt nag eraill?

“Dyma’r math o bethau rydyn ni’n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd.”

Ymbellháu cymdeithasol

Ond mae Mark Drakeford hefyd yn pwysleisio y bydd rhaid i unrhyw gamau i sicrhau y gall plant ddychwelyd i’r ysgol gynnwys ymbellháu cymdeithasol.

“Allwch chi’n sicr ddim cael ysgolion ar agor fel roedden nhw o’r blaen,” meddai.

“Mae angen ymbellháu’n gymdeithasol am resymau iechyd cyhoeddus, ond mae hefyd ei angen er mwyn darbwyllo rhieni ac athrawon eich bod chi’n gofyn i bobol ifanc ddychwelyd i amgylchfyd sy’n ddiogel iddyn nhw.

“Gallwch chi ailagor beth fynnoch chi ond os nad yw pobol yn credu ei bod yn ddiogel iddyn nhw fynd yno, byddan nhw’n pleidleisio â’u traed.”