Mae ymchwiliad ar waith wedi i’r gwasanaeth tân gael eu galw i Ysgol Gyfun y Bechgyn Aberdâr yn oriau mân y bore ’ma.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i’r digwyddiad yn yr ysgol i fechgyn yn Rhondda Cynon Tâf am 3.31am y bore ’ma.

Yn ôl llefarydd ar ran y gwasanaeth tân roedd ochr fas yr adeilad wedi mynd ar dân ar y llawr cyntaf a’r ail lawr.

Dywedodd y llefarydd wrth Golwg 360 nad oedd y digwyddiad yn “arbennig o ddifrifol ac nad oedd neb wedi cael eu hanafu”, ond fod “ymchwiliad nawr wedi dechrau i achos y tân”.