Mae mwy na 10,000 o bobol yng Nghymru wedi’u heintio â’r coronafeirws erbyn hyn.

Daeth cadarnhad yn ffigurau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Sadwrn, Mai 2).

Mae 183 o achosion newydd wedi’u cofnodi, sy’n mynd â’r cyfanswm i 10,155.

Bu farw 44 o bobol ers y cyhoeddiad dyddiol diwethaf ddoe (dydd Gwener, Mai 1), sy’n golygu bod 969 o bobol wedi marw, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ond mae’r ffigurau gwirioneddol yn debygol o fod dipyn yn uwch, yn sgil anghysondeb wrth gofnodi achosion a marwolaethau.