Mae dyn 46 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe fore ddoe (dydd Gwener, Mai 2).

Fe ddigwyddodd ar Ffordd Castell-nedd yn ardal Glandŵr y ddinas am 10.25yb, pan darodd car Toyota C-HR y dyn yn erbyn lori Iveco oedd wedi’i pharcio ar ymyl y ffordd.

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle er iddo dderbyn triniaeth gan barafeddygon.

Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac mae’r heddlu’n apelio am dystion a deunydd dashcam o’r digwyddiad.

Bu’n rhaid cau’r ffordd am hyd at bedair awr er mwyn cynnal ymchwiliad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.