Mae 12 o Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi codi pryderon am y trefniant profi yn y wlad hon.

Bellach yn Lloegr mae staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal – boed ganddyn nhw symptomau’r coronafeirws ai peidio – yn gymwys i dderbyn prawf.

Mae pobol dros 65 oed, a’r rheiny sy’n gorfod gadael eu cartrefi i fynd i weithio,  hefyd bellach yn gymwys – ond dim ond os oes ganddyn nhw symptomau’r haint.

Hyd yma, dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi dilyn ôl troed y Llywodraeth yn San Steffan yn hyn o beth, ac mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mae’r Torïaid wedi rhannu’u gofidion.

“Oherwydd y gwahaniaethau mewn argaeledd profion covid-19, bydd rhai pobol o’n hetholaethau ni yn dal covid-19 heb angen,” meddai’r llythyr.

“Bydd eraill yn treulio amser – cyfnod a ellir wedi ei osgoi – yn hunan ynysu ac i ffwrdd o’u gwaith.

“Pryder penodol sydd gennym yw’r ffaith bod preswylwyr cartrefi gofal yn debygol o wynebu risg parhaus ac annerbyniol.”

Y sefyllfa

Mae’r llythyr wedi cael ei arwyddo gan bob un Aelod Seneddol Ceidwadol yng Nghymru, gan eithrio Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, a’r gweinidog o’r Swyddfa Gymreig, David Davies.

Yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, doedd Llywodraeth San Steffan ddim wedi rhoi gwybod iddo am eu newidiadau i’r drefn cynnal profion.

Yng Nghymru, mae gweithwyr allweddol â symptomau, yn ogystal â chleifion yn yr ysbyty, yn medru derbyn prawf covid-19. Mae hefyd ar gael i staff a phreswylwyr cartrefi gofal sydd â symptomau.

Mae gweinidogion Cymru wedi rhannu eu hamheuon ynghylch profi pobol mewn cartrefi gofal sydd ddim yn dangos symptomau covid-19.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.