Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod dwy ganolfan newydd yn agor i brofi gweithwyr allweddol am y coronafeirws.

Bydd y canolfannau newydd yn Llandudno a Chaerfyrddin yn ychwanegiad i’r ddwy ganolfan bresennol, yn Stadiwm Dinas Caerdydd a Rodney Parade yng Nghasnewydd.

Y gobaith yw y byddan nhw’n cynyddu’r effeithlonrwydd ac yn cynyddu’r 2000 o brofion y dydd sydd yn cael eu cynnal ar weithwyr rheng flaen yng Nghymru.

Ble a phwy?

Bydd y canolfannau yn cael eu codi ar Stryd Builder yn Llandudno ac ar faes y sioe yng Nghaerfyrddin. Bydd gweithwyr allweddol yn derbyn apwyntiad i gymryd y swab eu hunain ar y safle heb adael eu cerbydau.

Bydd y ganolfan yn Llandudno ar agor o heddiw ymlaen (Ebrill 29) i weithwyr allweddol sydd yn dangos symptomau o Covid-19. Bydd y safle yng Nghaerfyrddin yn agor ddydd Iau (Ebrill 30).

Bydd gweithwyr o’r Gwasanaeth Iechyd, heddlu, gwasanaeth tân ac ambiwlans, awdurdodau lleol ac unrhyw weithwyr angenrheidiol eraill yn medru cael eu profi ar y safleoedd. Mae hyn hefyd yn cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol, athrawon a gweithwyr carchardai.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i edrych ar sut i gryfhau’r cyfleusterau profi yng Ngheredigion, Sir Benfro a Phowys.

Porth ar lein

Cyn hir, bydd gweithwyr allweddol yn medru defnyddio porth ar lein i gofrestru am brawf coronafirws yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Bydd y system yma yn ei dro yn cael ei sefydlu mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.

Bydd y flaenoriaeth i ddechrau i weithwyr gofal iechyd a chymdeithasol, ac unwaith fydd y system yma mewn lle bydd opsiwn i ddewis pecyn i brofi adref ar gael.

Yn ôl Vaughan Gething, bydd y system yn gwneud profi haws i’w gyrraedd ac yn “cyflymu atgyfeiriadau.”