I ddiolch i’r Gwasanaeth Iechyd am eu gwaith caled yn ystod argyfwng y coronafeirws mae ffoaduriaid o Syria wedi bod yn dosbarthu prydau bwyd i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Bwyty pop-up yn Aberystwyth yw’r ‘Syrian Dinner Project’ a sefydlwyd gan bum merch o Syria fel ffordd i adeiladu perthynas â’u cymuned leol ar ôl symud i Gymru.

Mae’r bwyty pop-up wedi dylunio bwydlen arbennig ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, sy’n gymysgedd o fwydydd traddodiadol o Syria. Maent bellach wedi dosbarthu 100 o brydau i’r ysbyty.

Dywedodd Latifa, un o sylfaenwyr y ‘Syrian Dinner Project’: “Roeddem ni’n awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned sydd wedi rhoi cystal croeso i ni yma yng Ngheredigion.”

“Yn fwy nag erioed yn yr amseroedd pryderus hyn, dylen ni i gyd weithio gyda’n gilydd i gefnogi ein gilydd.”

“Roeddem am wneud ein gorau dros staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n peryglu eu bywyd er mwyn achub ein rhai ni, bob dydd.”

Mae’r merched yn cydnabod nad oedd hi’n dasg hawdd i goginio, pacio a danfon y bwyd i’r ysbyty wrth ddilyn mesurau ymbellhau cymdeithasol, ond maent yn ddiolchgar i deulu, ffrindiau a’r Groes Goch am eu Cymorth.

Ramadan

Wrth i Fwslemiaid ar draws y byd wynebu cyfnod Ramadan tra gwahanol eleni oherwydd y pandemig, mae’r ‘Syrian Dinner Project’ wedi creu bwydlen ddosbarthu arbennig i gwsmeriaid yn ardal Aberystwyth, ac yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i rannu ryseitiau Arabaidd â’r gymuned ehangach.