Erthygl wadd gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, sy’n nodi pum egwyddor allweddol ar gyfer ailgychwyn ysgolion…

I’r rhai ohonom ni sy’n gweithio ym myd addysg, rydyn ni’n gwybod erioed bod athrawon a staff ysgolion yn arwyr bob dydd. Yn yr ymateb ar y cyd i Covid-19, maen nhw wedi cyflawni pethau rhyfeddol a dod yn arwyr cenedlaethol.

Maen nhw, a’n plant a’n rhieni, yn haeddu gwell na’r siarad llac diweddar rydyn ni wedi’i weld am y ddarpariaeth yn y dyfodol.

Dim opsiwn heb risg

Er ein bod ni’n edrych ar gynlluniau ac opsiynau ar gyfer y cam nesaf, ni fydd ysgolion yng Nghymru’n mynd yn ôl i drefn ‘normal’ yn fuan. O ran y cam nesaf, does dim opsiwn heb risg. Nid oes gan unrhyw lywodraeth yn y byd eto ddealltwriaeth lawn o sut ac a yw plant yn trosglwyddo’r feirws yn yr un ffordd â feirysau eraill neu yn yr un ffordd ag oedolion.

Wrth gwrs, nid dim ond llefydd i blant yw ysgolion. Mae athrawon, staff cymorth, glanhawyr, cogyddion ac oedolion eraill ynddyn nhw. Mae’r brys gan rai i weld mwy o ysgolion ar agor ‘fel arfer’ yn golygu bod rhai pobl yn anghofio’r gwirionedd syml efallai.

Mae’n cael ei ddiystyru yn aml, wrth gwrs, bod llawer o ysgolion ar agor fel arfer – gan ddarparu gwasanaeth hanfodol i blant gweithwyr allweddol a dysgwyr mwy agored i niwed. Mae hyn yn ymwneud â sut mae ‘normal newydd’ yn edrych a’r cam nesaf i ysgolion.

Egwyddorion allweddol

Pan fyddwn yn mynd heibio anterth y feirws, a phan fydd Llywodraeth Cymru (gan weithio gyda llywodraethau eraill) yn symud i’r cam nesaf, bydd darpariaeth yr ysgolion yn addasu ac yn ymestyn ymhellach. Wrth feddwl hyn drwodd, rwyf wedi bod yn glir gyda fy swyddogion, sy’n gweithio gyda’n system addysg ni yn ei chyfanrwydd, bod egwyddorion allweddol ar gyfer y cam nesaf hwnnw.

1.   Diogelwch a lles meddyliol, emosiynol a chorfforol myfyrwyr a staff.
2.   Cyfraniad parhaus at yr ymdrech a’r strategaeth genedlaethol i frwydro yn erbyn lledaeniad Covid-19.
3.   Ennyn hyder rhieni, staff a myfyrwyr – yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth – fel eu bod yn gallu cynllunio ymlaen.
4.   Gallu blaenoriaethu dysgwyr mewn camau allweddol, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig.
5.   Cysondeb gyda fframwaith gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru, i sefydlu canllawiau i gefnogi mesurau fel cadw pellter, rheoli presenoldeb a chamau gweithredu gwarchodol ehangach.

Safbwyntiau rhyngwladol

Wrth weithio drwy’r egwyddorion hyn, rwyf yn awyddus ein bod yn pwyso a mesur beth sy’n digwydd mewn llefydd eraill. Drwy aelodaeth Cymru o ARC, rwyf wedi gallu dod i ddeall beth sy’n digwydd ledled Gogledd a De America, Sgandinafia ac Awstralia. Rydyn ni mewn camau gwahanol yn lledaeniad y feirws a’r ymatebion ehangach o ran y gwasanaethau iechyd. Bydd Norwy yn ailagor ddiwedd y mis yma i’r disgyblion ieuengaf un, gan ddilyn Denmarc lle mae disgyblion hyd at 12 oed wedi dychwelyd, ond wedi’u rhannu’n ddosbarthiadau llai a gyda gweithdrefn hylendid a glanhau lem.

Er nad ydw i’n disgwyl i bob gwlad fabwysiadu’r un mesurau yn union, rwy’n edrych yn ofalus ar sut mae ysgolion mewn llefydd eraill yn ymateb i’r gofynion cadw pellter yn benodol. Rydyn ni i gyd yn gwybod y bydd hon yn her sylweddol. Bydd rhaid wrth ddiogelwch a goruchwyliaeth gynyddol fel rhan o ddychwelyd i’r ysgol ac at astudio.

Bydd y dull o weithredu’n cynnwys rhoi’r mesurau angenrheidiol ar waith i warchod, er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo, gan sicrhau bod plant yn ôl yn dysgu yn yr amgylchedd gorau iddyn nhw, a monitro’n fanwl gyda’n gilydd unrhyw newidiadau yn absenoldeb a chapasiti’r gweithlu.

Camau nesaf

Nid yw ysgolion (na cholegau a phrifysgolion) yn ynysoedd. Bydd mynd yn ôl at rywbeth sy’n edrych ac yn teimlo’n fwy normal yn galluogi i fwy o rieni fynd yn ôl i’r gwaith. Wedyn rhaid ystyried y mater iechyd cyhoeddus ehangach o gynyddu’r capasiti ar gyfer profi ac olrhain, a byddaf yn cael fy arwain gan y cyngor gwyddonol ac iechyd mewn perthynas â’r materion hyn. Yr hyn a allaf ei warantu yw y bydd yn ddull fesul cam o weithredu. Nid wyf yn disgwyl y bydd ysgolion ledled Cymru ar agor i bob disgybl o bob blwyddyn, drwy gydol yr wythnos, yn fuan iawn.

Mae’n parhau’n hanfodol ein bod ni’n cefnogi athrawon a rhieni i helpu ein plant ni i ddal ati i ddysgu. Mae hyn yn cynnwys dysgu o bell, drwy blatfform Hwb Cymru, a chefnogaeth ychwanegol i’r rhai sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, yn ogystal â dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad yr wythnos yma am fwy o gyllid ar gyfer hyn, yn benodol am gael dyfeisiau a chit allan i fwy o ddysgwyr.Ni fydd dychwelyd i’r ysgol yn ddychwelyd i normal. I gydnabod hyn, rwyf wedi datgan yn glir eisoes y byddaf yn lleihau’r baich ar ysgolion – gan gynnwys casgliadau data amrywiol, gohirio mesurau perfformiad, a chael gwared ar y gofyniad i ymgymryd â phrofion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol, yn ogystal â ffurfiau eraill ar asesu.

Rwyf yn credu y bydd hyn yn helpu athrawon i barhau i ganolbwyntio ar gefnogi plant i ddysgu, cadw’n ddiogel, a mwynhau bod yn ôl gyda ffrindiau a’u hathrawon.

Normal newydd

Ni fydd ein normal newydd ni’n debygol o fod yn ‘gartref un diwrnod, yn ôl yn yr ysgol am y flwyddyn y diwrnod canlynol’. Mae heriau o’n blaen a bydd rhaid i ni i gyd gynnal dull hyblyg o weithredu, ond un sy’n rhoi’r cyfle gorau am fywyd ysgol i’n plant.

Yn aml rwyf yn disgrifio addysg yng Nghymru fel ‘ein cenhadaeth genedlaethol’. Ymdrech ar y cyd sy’n cyrraedd y tu hwnt i giatiau’r ysgol, wedi’i gwreiddio yn ein hanes o weithredu gyda’n gilydd. Rwyf wedi bod â disgwyliadau uchel erioed ar gyfer pob un dysgwr, athro ac ysgol, gan sicrhau bod tegwch a rhagoriaeth yn mynd law yn llaw. Mae’r wythnosau diwethaf wedi profi, y tu hwnt i bob amheuaeth, bod y genhadaeth genedlaethol yn gwneud byd o wahaniaeth i’n hymdrech genedlaethol a rhyngwladol yn ystod y cyfnod rhyfeddol yma.

Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg