Bydd Gordon Borwn yn helpu i arwain Cymru drwy’r broses adfer ar ôl y coronafeirws fel rhan o grŵp ymgynghori newydd.

Mae’r cyn-Brif Weinidog Llafur yn un o dri ymgynghorwr allanol sydd am rannu eu harbenigedd ar faterion fel yr economi a gwasanaethau cyhoeddus, gan helpu i adfer gwasanaethau ar ôl effeithiau’r pandemig.

Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, fydd yn arwain y gwaith ac heddiw, Ebrill 29, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai Gordon Brown yn ymuno â Paul Johnson, cyfarwyddwr Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, a Dr Rebecca Heaton, aelod o Bwyllgor Prydain ar Newid Hinsawdd, fel aelodau o’r grŵp. Mae aelodaeth lawn y grŵp eto i’w gadarnhau – dyma’r tri enw cyntaf sydd wedi cytuno i gymryd rhan.

Yn natganiad dyddiol Llywodraeth Cymru dywedodd Jeremy Miles y byddai’r grwp yn cyfarfod am y to cyntaf ddydd Gwener:

“Wrth edrych ymlaen at y cyfnod nesaf roeddem ni’n awyddus i sicrhau fod gennym ni leisiau yma yng Nghymru, ac ein bod ni hefyd yn cael clywed gan leisiau o’r tu allan i Gymru.

“Mae cymysgedd o leisiau yn y byd economaidd, amgylcheddol, a gwasanaethau cyhoeddus yn mynd i’n helpu ni i ymateb i’r sialensiau sydd o’n blaenau ni.”