Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i achos o boeri ar lwybr yn Sir Benfro.

Dywed yr heddlu eu bod yn ymwybodol o sylwad ar gyfryngau cymdeithasol sy’n ymwneud â honiad fod dyn wedi poeri ar aelod arall o’r cyhoedd ger parc sglefrio yn Hwlffordd.

Digwyddodd am oddeutu 10.15yb ddydd Gwener (Ebrill 24), a chafodd yr heddlu eu galw.

Mae’n cael ei ystyried yn ymosodiad ac mae’r heddlu wedi cael datganiad gan y dioddefwr, ac yn edrych ar luniau camerâu cylch-cyfyng yn yr ardal.

Mae’r heddlu wedi dod o hyd i’r dyn a’i holi, ac maen nhw nawr yn awyddus i siarad â dynes oedd yn cerdded gyda’i chi yn yr un ardal, yn syth a’r ôl y digwyddiad.

Mae’r heddlu’n credu y gall fod gan y ddynes wybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad.

“Rydym yn cymryd adroddiadau o’r math yma o ddifrif a gallaf sicrhau’r cyhoedd fod camau priodol yn cael eu cymryd,” meddai Prif arolygydd Louise Harries.

“Rwyf yn ymwybodol o sylwad a’r gyfryngau cymdeithasol a byddwn yn gofyn i’r cyhoedd i beidio dyfalu enwau pobl allai fod yn rhan o’r digwyddiad oherwydd gallai hyn effeithio’r ymchwiliad.”