Mae Cyngor Sir Powys yn ymchwilio i nifer o garcasau ŵyn sydd wedi’u gollwng o bont yng nghanol y sir.

Mae’r Gwasanaeth Safonau Masnach wrthi’n ymchwilio i’r digwyddiad yn ardal Llananno.

Yn ôl y Cyngor, dyma’r ail ddigwyddiad yn y sir y mis hwn ac yn sgil y digwyddiad, mae’r gwasanaeth am atgoffa’r gymuned amaethyddol ym Mhowys unwaith eto i waredu carcasau anifeiliaid yn y ffordd gywir.

‘Siomedig’

“Mae’n hynod siomedig,” meddai’r Cynghorydd James Evans, yr Aelod Cabinet dros Safonau Masnach.

“Er gwaethaf y rhybuddion a roddwyd o’r blaen, rydym wedi cael ail ddigwyddiad yn y sir.

“Mae dympio carcasau yn fater difrifol ac mae’n gallu arwain at risg gwirioneddol o glefyd yn ogystal â niweidio enw da’r gymuned ffermio.

“Mae’r gyfraith yn glir ac yn angenrheidiol  i reoli lledaeniad clefydau i anifeiliaid eraill ac i ddiogelu’r gadwyn fwyd ddynol.  Mae torri’r gofynion hyn yn fygythiad i iechyd pobl ac anifeiliaid.

“Atgoffir ffermwyr ei fod yn ofynnol o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodaeth) (Cymru) 2014 fod pob carcas yn cael ei gasglu, ei gludo a’i waredu mewn modd cymeradwy.

“Os nad yw ffermwyr yn dilyn y rheoliadau hyn, yna byddwn yn ymchwilio ac yn cymryd y camau priodol.”