Mae Vaughan Gething wedi cadarnhau nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi adrodd am nifer sylweddol o farwolaethau’n ymwneud â’r coronafeirws.

Daw ei sylwadau yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 28).

Doedd 31 o farwolaethau ddim wedi cael eu cynnwys yn ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru, meddai.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, dim ond pump o farwolaethau fu yn ardal Hywel Dda, ac mae Vaughan Gething yn dweud mai mater o “dan-adrodd” yw e.

Fe ddaeth i’r amlwg yr wythnos ddiwethaf fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr heb adrodd am 84 o farwolaethau dros gyfnod o fis.

Yn ôl Vaughan Gething, dyw’r sefyllfa ddim yn golygu nad yw teuluoedd wedi cael gwybod yn brydlon am farwolaethau.

Ond mae’n dweud bod y sefyllfa bellach wedi cael ei datrys.

‘Cyson’

“Rydyn ni’n gwbl glir nawr fod yr holl systemau adrodd yn gyson, fod pawb am ddefnyddio’r un system o adrodd,” meddai Vaughan Gething.

“A dylai hynny olygu wedyn y bydd ffigurau heddiw ac yfory wedi’u diweddaru’n llawn.

“A’r hyn dw i’n credu sy’n bwysig yw nad yw’n newid ein dealltwriaeth o broffil yr afiechyd ledled Cymru.

“Ond mae yna wersi i’w dysgu’n sicr wrth i ni symud yn ein blaenau, am bob rhan o’n system, rhannu gwybodaeth gyda’n gilydd, ac yna hyder y cyhoedd ond hefyd gweinidogion wrth wneud penderfyniadau a rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd.”