Bydd miliynau o bunnoedd o refeniw drwy chwarae’r Loteri yn cael ei rannu yng Nghymru dros y misoedd nesaf i helpu prosiectau sydd wedi eu heffeithio gan y coronafirws.

Y prosiectau hyn sydd yn cefnogi’r bobol fwyaf bregus yn y gymdeithas.

Bydd prosiectau celfyddydau, cymunedol, elusennol, treftadaeth, addysg, yr amgylchedd a’r sector chwaraeon i gyd yn elwa.

Yng Nghymru’n benodol mae:

  • Cyngor Celfyddydau Cymru, ynghyd a Llywodraeth Cymru, wedi medru rhoi £5.1m o gronfa’r Loteri Genedlaethol i Gronfa Hydwythedd y Celfyddydau yng Nghymru sy’n werth £7 miliwn. Bydd yr arian yn helpu i gefnogi unigolion a sefydliadau sydd yn cael eu hariannu gan y celfyddydau i’w helpu drwy’r coronafirws.
  • Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio Cronfa Hydwythedd Chwaraeon gwerth £4.75m i sicrhau bod y genedl yn cadw’n heini
  • Mae dros £300m yn cael ei rannu rhwng grwpiau ar draws gwledydd Prydain er mwyn cefnogi cymunedau yn ystod yr amser yma.

Prosiectau yn addasu

Mae dros £30m yn cael ei godi ar gyfartaledd gan y Loteri Genedlaethol bob wythnos.

Ac er nad yw’n gwbl glir eto pa brosiectau fydd yn derbyn y cyllid gyntaf, mae sawl prosiect sydd yn barod yn derbyn cymorth gan y Loteri wedi bod yn addasu hyd eithaf eu gallu yn ystod yr argyfwng.

  • Mae’r ‘Tool Shed’ yng Nghaerfyrddin sydd fel arfer yn rhoi benthyg adnoddau er mwyn gwneud DIY a thrwsio yn llawer mwy fforddadwy i deuluoedd o fewn y sir. Erbyn hyn maen nhw’n anfon parseli o amgylch y gymuned gyda phlanhigion a hadau i bobol sydd eisiau tyfu gartref. Maen nhw hefyd wedi creu penwisg i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd fel nad yw’r mygydau’n torri ar eu croen.
  • Mae’r prosiect Armchair yn Theatr Clwyd wedi bod yn darparu pecynnau creadigol i’w cyfeillion mwyaf bregus sydd yn byw â dementia. Mae’r pecynnau’n cynnwys jig-sos, cardiau, gemau, eitemau gwau, adran grefftau a cherdyn yn dangos yr ymarferion cynhesu maen nhw’n arfer eu gwneud o fewn y sesiynau.
  • Mae aelodau o Ganolfan Ffitrwydd Codi Pwysau ar Ynys Môn yn gadael i’w haelodau fenthyg offer i gadw’n heini ac ymarfer
  • Yng Nghanolfan Gymunedol Eglwys Glenwood yn Llanedyrn yng Nghaerdydd, maen nhw wedi bod yn canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth i weithwyr ac aelodau bregus o fewn y gymdeithas. Maen nhw’n cadw’r Banc Bwyd yn Llanedyrn ar agor ac yn gweithio ar system gyfeillio sy’n sicrhau bod pobol yn derbyn galwadau ffôn wythnosol.

“Rydym yn gweithio’n ddiflino i gefnogi’r prosiectau yr ydyn ni’n eu hariannu,” meddai John Rose, cadeirydd Fforwm y Loteri Genedlaethol yng Nghymru a Chyfarwyddwr y Gronfa Gymunedol yng Nghymru.

“Rydyn ni’n ceisio rheoli’r effeithiau gymaint ag sy’n bosib yn ystod yr amser anodd hwn.

“Rydyn ni eisiau argyhoeddi ein cymunedau ein bod ni’n dal yma, rydyn ni’n dal yn gwobrwyo a hoffem ni ddiolch i chwaraewyr y Loteri am eu cefnogaeth barhaus, sydd yn ein galluogi ni i barhau i ariannu pobol a chymunedau sydd yn cael eu heffeithio gan y pandemig.”