Rheilffordd Tal-y-Llyn
Mae’r rheilffordd fechan ysbrydolodd y Parchedig Wilbert Awdry i ysgrifennu hanesion Tomos y Tanc wedi ennill gwobr gan Sefydliad y Peirianyddion Mecanyddol am fod yn un o lwyddianau peirianyddol mwyaf Prydain, gan mai hi yw’r rheilffordd gul di-dor hynaf ym Mhrydain.

Roedd y Parchedig Awdry yn weithiwr gwirfoddol ar y rheilffordd yn 1952 a chafodd ei ysbrydoli yno i ysgrifennu am helyntion Tomos y trên bach stêm.

Agorwyd y rheilffordd yn 1866 i gario llechi o chwareli Bryn Eglwys ger Abergynolwyn ond roedd teithwyr hefyd yn defnyddio’r lein i gyrraedd mannau anghysbell yn yr ardal.

Llechi o chwareli Bryn Eglwys gafodd eu defnyddio i doi Palas San Steffan yn Llundain ond fe gaewyd y chwarel yn 1946. Roedd y lein yn agored beth bynnag tan 1950  ac erbyn hyny roedd mudiad i warchod y hreilffordd wedi cael ei sefydlu ac fe ail gychwynodd y trenau deithio ar y lein fach yn 1951.