Bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, yn cyhoeddi pum egwyddor allweddol heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 28) ar gyfer agor ysgolion yng Nghymru eto.

Cyn ymddangos gerbron y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, bydd hi’n egluro’i chynlluniau ar gyfer dull graddol fydd yn caniatáu disgyblion i ddychwelyd i’r ysgol.

Dim ond i blant gweithwyr hanfodol a phlant sydd mewn perygl o niwed mae ysgolion ar agor ar hyn o bryd.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd darpariaeth ysgolion yn addasu’n raddol ac yn ehangu ymhellach yn y dyfodol agos.

Mae’r prif weinidog wedi cyhoeddi fframwaith gyda saith cwestiwn allweddol i geisio arwain Cymru allan o’r pandemig coronafeirws.

Yr egwyddorion

Y pum egwyddor allweddol ar gyfer ailgychwyn ysgolion yn ôl y Gweinidog Addysg yw:

  • Diogelwch a lles meddyliol, emosiynol a chorfforol myfyrwyr a staff
  • Cyfraniad parhaus i’r ymdrech a’r strategaeth genedlaethol i frwydro yn erbyn ymlediad Covid-19
  • Hyder rhieni, staff a myfyrwyr – yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth – fel y gallant gynllunio ymlaen llaw
  • Y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd difreintiedig
  • Cysondeb â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau, i sefydlu arweiniad i gefnogi mesurau fel ymbellháu, rheoli presenoldeb a chamau amddiffyn ehangach.

“Ni fydd ysgolion yn dychwelyd ar unwaith i weithredu i’w capasiti llawn,” meddai Kirsty Williams.

“Bydd yn broses raddol a dw i ddim yn disgwyl y bydd ysgolion yn sydyn ar agor i bob disgybl, o bob blwyddyn, drwy’r wythnos.

“Mae her barhaus COVID-19 yn golygu y byddwn yn paratoi ysgolion ar gyfer ystod eang o senarios hyd y gellir rhagweld.

“Pa mor annhebygol bynnag y bo, rhaid i ni baratoi ar gyfer sefyllfa sy’n gofyn i ysgolion leihau eu gweithgarwch ar adegau penodol yn y dyfodol.”