Mae dau ddyn yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad yng Nghaerdydd neithiwr (nos Lun, Ebrill 27).

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Parc Ninian am oddeutu 7.45, a bu’n rhaid cau’r heol am gyfnod.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac roedd teithwyr yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal yn dilyn y digwyddiad.

Roedd yr heddlu’n pwysleisio’n dilyn yr ymosodiad nad oedd bygythiad ehangach i’r gymuned leol.