Mae’r cyn-wleidydd, darlithydd a chenedlaetholwr Edward Millward, neu Tedi Millward fel yr oedd yn cael ei adnabod, wedi marw yn 89 oed.

Bu farw ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

Astudiodd yn Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd ac yng Ngholeg Prifysgol De Cymru cyn mynd ymlaen i gael swydd fel darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n diwtor Cymraeg i’r Tywysog Charles dros gyfnod o naw wythnos cyn yr Arwisgo  chafodd ei bortreadu gan yr actor Mark Lewis Jones mewn pennod o’r gyfres The Crown ar Netflix y llynedd.

Roedd yn aelod brwd o Blaid Cymru, gan sefyll dros y blaid yn Sir Aberteifi yn etholiad cyffredinol 1966, ac yna fel yr ymgeisydd yn Sir Drefaldwyn yn 1970. Cafodd ei ethol yn ddirprwy-lywydd Plaid Cymru yn 1966.

Tedi Millward, ynghyd a’r hanesydd John Davies oedd yn gyfrifol am sefydlu Cymdeithas yr Iaith yn 1962 a bu’n cefnogi ymgyrch Gwynfor Evans dros gael sianel Gymraeg yn ystod yr 1980au cynnar.

Cafodd ei hunangofiant, Taith Rhyw Gymro ei chyhoeddi gan Gwasg Gomer yn 2015.

Roedd yn briod â Sylvia Hart, gan fagu dau o blant, y gantores ac actores Llio Millward, a’r awdur Andras Millward, fu farw ym mis Hydref 2016.

“Bonheddig”

Bu Derec Llwyd Morgan yn gweithio gyda Tedi Millward ac wrth roi teyrnged iddo dywedodd ei fod yn ddyn “bonheddig a gwaraidd”.

“Er yn ddyn cyhoeddus, un mwyn anymwthgar oedd Tedi, bonheddig, gwaraidd, hardd ei wedd, a hoffai stori cystal â neb. Fel ei gydweithiwr Bobi Jones, un o Gymry di-Gymraeg Caerdydd ydoedd, un o ddisgyblion yr athro athrylithgar Elvet Thomas, un a feistrolodd yr iaith ac a garodd ei Phethe i’r fath raddau fel y daeth megis yn un o flaenoriaid y genedl.

“Cafodd gryn gyhoeddusrwydd y llynedd pan ffilmodd Netflix hanes y Tywysog Siarl yn cael tiwtorials gan Tedi yn yr Hen Goleg. Do, bu’n dysgu Charles; ond ni soniodd air amdano drwy’r blynyddoedd yr adnabûm i ef. Gwell ganddo ganolbwyntio’n hytrach ar ei ddisgyblion arferol, ac ar ei bynciau ymchwil. Ef oedd yr awdurdod mawr ar Eben Fardd: “Bywyd a Gwaith Eben Fardd” oedd pwnc ei Draethawd MA. Traethodd yn helaeth amdano, a chyhoeddodd nifer mawr o weithiau arno a Detholion o’i ddyddiadur.

“Ni fu’r blynyddoedd diwethaf yn garedig wrtho. Collodd ei fab, Andras, mewn amgylchiadau anodd, a bu’n dioddef tostrwydd ofnadwy.”