Mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn am gymorth Llywodraeth Prydain i sicrhau bod y diwydiant dur yn goroesi’r argyfwng yn sgil y coronafeirws.

Dywedodd Mark Drakeford bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cwmni Dur Tata, sy’n cyflogi tua 4,000 o bobl yn y gweithfeydd ym Mhort Talbot.

Yn ôl adroddiadau dros y penwythnos roedd Tata wedi gofyn i Lywodraeth Prydain am becyn ariannol gwerth £500 miliwn i’w helpu drwy’r pandemig Covid-19 ar ôl i nifer o’u cwsmeriaid, fel cynhyrchwyr ceir, roi diwedd i gynhyrchu yn ystod yr argyfwng.

Daeth i’r amlwg hefyd bod cwmni Airbus, sydd â ffatri ym Mrychdyn, Sir y Fflint, hefyd wedi rhybuddio eu bod yn colli arian sylweddol oherwydd y trafferthion sy’n wynebu’r diwydiant awyrennau.

Dywedodd Mark Drakeford bod y pandemig coronafeirws nid yn unig yn argyfwng iechyd ond yn argyfwng economaidd hefyd.

“Mae graddfa’r her ryngwladol sy’n wynebu’r diwydiant dur ym mhob man yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gamu i’r adwy,” meddai.

Yn yr un modd, meddai, o ran Airbus “fe fyddwn ni yn chwarae ein rhan ond mae angen datrysiad sy’n mynd i’r afael a natur ryngwladol y broblem.”

Mae’r Llywodraeth wedi sefydlu benthyciadau i fusnesau sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws sy’n cynnig benthyciadau o hyd at £50m i fusnesau sydd â throsiant o fwy na £45m.

Dywedodd llefarydd ar ran Tata eu bod yn “parhau i gydweithio gyda llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru i geisio gweld pa gymorth sydd ar gael.”