Mae dyn o Cumbria mewn dŵr poeth ar ôl teithio i ddringo’r Wyddfa.
Cafodd y dyn ei weld a’i herio gan staff gwesty gerllaw wrth iddo ddychwelyd i’w gar.
Dywed yr heddlu iddo fynd yn “ymosodol ar ôl cael ei herio, gan feddwl nad oedd y rheoliadau’n berthnasol”.
Cafodd ei stopio eto wedyn ar yr A55 gan Heddlu Swydd Caer a’i riportio am dorri rheolau COVID-19.