Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud y gallai mesurau gael eu cyflwyno i orfodi pobol i adael eu hail gartrefi yn sgil y coronafeirws.

Dywedodd wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC heddiw (dydd Sul, Ebrill 26) fod trafodaethau ar y gweill â’r heddlu ac awdurdodau lleol ynghylch pa mor ymarferol fyddai cyflwyno gwaharddiad o’r fath.

Fe ddaw wrth i gynghorydd sir Ceinewydd yng Ngheredigion rybuddio bod y lleiafrif yn achosi problemau i bobol oedrannus yng nghefn gwlad.

Daw sylwadau’r prif weinidog ddeuddydd ar ôl i reolau newydd gael eu cyhoeddi, yn egluro na all pobol aros oddi cartref mewn ail gartrefi.

Ond fe fu rhai’n camddehongli’r cyhoeddiad fel ffordd o gadw pobol draw o’u hail gartrefi, gan fod rhai wedi bod yn galw am waharddiad rhag teithio i ail gartrefi.

Hawliau dynol a materion cyfreithiol

Yn ôl Mark Drakeford, mae yna ystyriaethau o ran hawliau dynol a materion cyfreithiol cyn gwneud penderfyniad terfynol.

“Os ydych chi am ddweud wrth bobol yn eu cartrefi eu hunain y gellid eu gorfodi i symud a’u hanfon oddi yno, mae yna hawliau dynol a materion cyfreithiol ynghlwm, a rhaid i ni fod yn sicr ein bod ni wedi meddwl am bopeth,” meddai.

“Rydyn ni wedi bod yn siarad â’r heddlu am y materion gorfodi y bydden nhw’n eu hwynebu ac maen nhw, yn eu tro, yn credu bod rhaid i’r awdurdodau lleol fod ynghlwm oherwydd yr awdurdodau lleol sy’n gwybod pa gartrefi sy’n cael eu defnyddio fel ail gartrefi.

“Rydyn ni’n mynd i wneud rhagor o waith ar hynny.”

Mae’n dweud ymhellach fod rhaid adolygu mesurau’r coronafeirws bob tair wythnos, a bod digon o amser i ystyried newidiadau pellach.

“Mae’n gam draconaidd iawn i ddweud wrth bobol sy’n aros yn rhywle maen nhw’n berchen arno y gallech chi eu gorfodi nhw i symud – byddech chi wedi synnu’n fawr o glywed llywodraeth yn dweud hynny ychydig fisoedd yn ôl.

“Os ydyn ni am gyrraedd y sefyllfa yna, rhaid i ni ei wneud e a bod yn hyderus fod y gyfraith yn ddiogel o dan ein traed, mai dyna’r peth cymesur i’w wneud ac y gallwn ni ei orfodi os ydyn ni’n penderfynu ei wneud e.”