Mae Dan Potter, cynghorydd sir yng Ngheinewydd, yn dweud wrth golwg360 fod pobol sy’n anwybyddu gwarchae’r coronafeirws wrth deithio i gefn gwlad yn peryglu bywydau pobol oedrannus.

Mae’r ardal ar arfordir Ceredigion yn ddibynnol ar dwristiaeth yn ystod misoedd yr haf, ond mae’n apelio unwaith eto ar i bobol gadw draw – gan bwyleisio nad yw’n siarad â 75% o berchnogion tai haf.

“Mae un neu ddau o bobol yn credu eu bod nhw uwchlaw’r gyfraith,” meddai.

“A bod yn deg, nid y rhai sy’n dod yn rheolaidd i’w tai haf ydyn nhw.

“Dyma’r rhai sy’n sleifio i mewn yn ystod y nos ac yn anfon eu bagiau trwy gwmni cludo, ac yn cael eu bagiau wedi’u dylifro yma cyn iddyn nhw ddod.

“Gyda’r argyfwng ar hyd a lled y wlad ar hyn o bryd, mae pobol yn ceisio achub bywydau.

“Mae’n argyfwng difrifol.

“Ry’n ni’n cael pobol ar hyd yr arfordir yn mynd i’w hail gartrefi, yn dod i mewn ac yn meddwl y gallan nhw aros yma.”

Ond mae’n dweud bod rhaid ymateb i’r sefyllfa’n ofalus, rhag i bobol feddwl na fydd croeso iddyn nhw ar ôl i’r feirws ddiflannu.

“Ar ddiwedd y dydd, rydyn ni eisiau gweld pobol yn dod yn ôl yma pan fo hyn i gyd ar ben, ond y broblem yw fod gan Geinewydd boblogaeth oedrannus ar y cyfan.

“Pe bai’r feirws yn cyrraedd Ceinewydd a bod tri, pedwar neu bump o bobol yn ei ddal, a bod pobol eraill yn cael eu heintio wedyn, byddai’r drwgdeimlad yn ofnadwy oherwydd rydych chi’n sôn am gael gwared ar y boblogaeth hŷn.

“Rhaid i ni barchu canllawiau’r llywodraeth ac aros adref.”

Meddygfeydd

Yn ôl Dan Potter, mae’r nifer cynyddol o bobol sy’n teithio i Geinewydd a rhannau eraill o Geredigion yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau iechyd yr ardal.

“Y broblem arall yw fod pobol wedi cofrestru mewn meddygfeydd yn eu hardaloedd eu hunain, ond nid yn y feddygfa leol yn fan hyn,” meddai.

“Felly mae hynny’n rhoi pwysau ychwanegol ar ein meddygfa ni.

“Rhaid defnyddio synnwyr cyffredin ond mae un neu ddau deulu, mwy efallai, yn credu eu bod nhw uwchlaw’r gyfraith.

“Maen nhw’n meddwl, ‘Dw i’n berchen ar dŷ yno a dw i’n mynd i’w ddefnyddio’.”

‘Canllawiau clir’

Mae’n wfftio’r awgrym fod canllawiau Llywodraeth Cymru’n aneglur o hyd, gan ddweud eu bod nhw wedi gwneud ymdrech i gyflwyno mesurau tynn erbyn hyn.

“Mae’r Cynulliad yn gwbl glir nawr na ddylai unrhyw un deithio i ail gartref,” meddai.

“Dyw pobol ddim yn eu gweld nhw’n dod â’u stwff yma, a dyw’r heddlu ddim yn edrych ym mhob car.

“Ond a bod yn deg, mae’r heddlu wedi bod yn hollol wych.

“Ond ar ddiwedd y dydd, dyw e ddim yn rhywbeth personol yn erbyn pobol.

“Y peth mwyaf sydd angen ei egluro wrth bobol yw ein bod ni’n ceisio achub yr henoed yng Ngheinewydd rhag iddyn nhw ddal y coronafeirws – dyna’r cyfan.

“Mae gyda ni barc gwyliau lle mae pobol oedrannus yn ymddeol, ac mae 245 o gartrefi.

“Dw i’n mynd â meddyginiaeth yno fy hun, gyda boi sy’n gweithio ar y bad achub ac un o’m cyd-gynghorwyr.

“Dydyn ni ddim am heintio pobol, felly rydyn ni wedi bod yn mynd â meddyginiaeth o’r fferyllfa i warchod pobol. Rhaid iddyn nhw ddod gyntaf.”

“Pan fydd hyn i gyd ar ben ac rydyn ni wedi cael brechlyn, bydd croeso i bawb o bobol y byd ddod yma i Geinewydd.

“Ond ar ddiwedd y dydd, mae gen i ddyletswydd fel cynghorydd sir Ceinewydd i warchod pobol leol Ceinewydd, a dyna sy’n dod gyntaf.”

Effaith y gwarchae ar fusnesau

Mae Dan Potter yn dweud y bydd effaith y feirws yn dod yn fwy amlwg maes o law.

“Mae Ceinewydd 99% yn ddibynnol ar dwristiaeth,” meddai.

“Mae hyn yn mynd i fod yn ofnadwy i hinsawdd economaidd Ceinewydd.

“Dechreuodd y tymor yn dda, roedd y tywydd yn hyfryd ac yn anffodus, byddai pobol wedi gwneud swm sylweddol o arian dros y Pasg, a fyddai wedi gwneud lles iddyn nhw tan yr haf, a bydden nhw wedi cael haf da.

“Dw i’n derbyn galwadau o hyd gan fusnesau fel cynghorydd sir yn gofyn pa gymorth sydd ar gael.

“Mae’n broblem ledled y Deyrnas Unedig, rydyn ni’n deall hynny, ond y broblem yw fod pentrefi bach yn ddibynnol ar dwristiaeth.”