Mae beiciwr modur 62 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Barri fore heddiw (dydd Sul, Ebrill 26).
Roedd ei feic a char Volvo XC 40 lliw brown yn symud tua’r gorllewin pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad am oddeutu 11.15yb.
Cafodd e anafiadau difrifol, ac fe fu farw yn y fan a’r lle.
Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac maen nhw’n derbyn cefnogaeth gan yr heddlu.
Mae’r ffordd ynghau o gylchfan Clwb Golff Brynhill hyd at y cyffordd â Heol Merthyr Dyfan wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.