Mae cadeirydd Yes Cymru Abertawe wedi croesawu penderfyniad “call” AUOB i ohirio’r orymdaith annibyniaeth yn y ddinas ar Fedi 5.

Wrth i’r cadarnhad ddod fore heddiw (dydd Sul, Ebrill 26), roedd golwg360 yn adrodd bod y trefnwyr yn ystyried digwyddiadau ar-lein, ac mae Yes Cymru Abertawe bellach wedi cadarnhau hynny mewn datganiad.

“Wrth i’r pandemig Covid-19 gymryd drosodd ein bywydau, mae ansicrwydd y dyfodol agos yn flaenllaw ym meddyliau pawb,” meddai Tricia Roberts, cadeirydd cangen Abertawe y mudiad.

“Felly, mae’n beth call ein bod ni’n gohirio gorymdaith AUOB Cymru yn Abertawe ar Fedi 5.

“Byddwn ni’n trefnu digwyddiadau ar-lein yn ei lle.

“Mae’r pandemig yma wedi dangos nifer o wendidau yn ein cymdeithas, ac yn enwedig lle Cymru yn y Deyrnas Unedig. Gall Cymru gyfan weld hyn.

“Mae’r gwytnwch a’r gefnogaeth gymunedol yn ystod y pandemig a’r gwarchae wedi bod yn anhygoel.

“Cadwch yn ddiogel, cadwch yn iach ac arhoswch dan do – er dyfodol gwell!”