Mae gorymdaith annibyniaeth olaf 2020 yn Abertawe wedi cael ei gohirio yn sgil y coronafeirws.

Roedd disgwyl iddi gael ei chynnal ar Fedi 5.

Cafodd y newyddion ei gadarnhau ar gyfrif Twitter AUOB Cymru heddiw (dydd Sul, Ebrill 26).

Datganiad

Mewn datganiad, mae AUOB Cymru yn dweud bod y penderfyniad wedi cael ei wneud gan “nad yw crynoadau torfol yn debygol o allu digwydd hyd y gellir rhagweld”.

“Mae hefyd yn amlwg ar hyn o bryd y dylen ni aros gartref ac aros yn ddiogel,” meddai llefarydd mewn datganiad.

“Am y rhesymau hyn, rydym wedi penderfynu gohirio’r orymdaith olaf a gynlluniwyd ar gyfer 2020, yn Abertawe ar 5 Medi.

“Yn yr amgylchiadau mae hwn wedi bod yn benderfyniad hawdd i’w wneud, er ei fod yn dal i gael ei wneud â chalon drom.”

Annibyniaeth “yn bwysicach nag erioed”

Mae’r mudiad yn dweud bod ymateb Llywodraeth Prydain i’r coronafeirws yn dangos bod “annibyniaeth yn bwysicach nag erioed”.

“Credwn yn llwyr fod yr ymateb gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi dangos y mae annibyniaeth yn bwysicach nawr nag erioed.

“Ni fydd San Steffan byth yn blaenoriaethu anghenion Cymru, a dangoswyd bod datganoli wedi’i adeiladu ar dywod.

“Bydd y ffocws nawr yn newid i ffyrdd eraill o adeiladu’r mudiad, fel Rali Tŷ Ni – All Under One Roof.

“Hoffem ddiolch i bawb ar lawr gwlad yn Wrecsam, Tredegar ac Abertawe sydd wedi treulio cymaint o amser ac ymdrech yn trefnu’r hyn a oedd i fod yn rhaglen o orymdeithiau wirioneddol gyffrous.

“Pan fydd yn ddiogel i’w wneud, byddwn yn taro’r strydoedd eto, ond am y tro, arhoswch yn ddiogel, edrychwch ar ôl eich hunan a’ch anwyliaid.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan drefnwyr yr orymdaith yn Abertawe, ac yn deall eu bod nhw eisoes yn trafod ffurf amgen o gynnal digwyddiadau.