Mae arbenigwr yn rhybuddio y gallai hanner cartrefi gofal Cymru gau o fewn blwyddyn yn sgil y coronafeirws.

Daw’r rhybudd gan Mario Kreft, cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, wrth iddo ddweud bod nifer o gartrefi wedi gorfod cael benthyciadau ac yn ystyried cau yn sgil costau cynyddol a llai o refeniw.

A dim ond gwaethygu fydd y sefyllfa, meddai.

Mae 643 o gartrefi gofal yng Nghymru ar gyfer pobol dros 65 oed, ac mae’n dweud bod angen i 90% o’r llefydd sydd ar gael fod wedi’u llenwi, a bod unrhyw beth o dan 85% yn anghynaladwy.

Ond y sefyllfa erbyn hyn yw mai dim ond 25% i 30% o lefydd sydd wedi’u llenwi yn rhai o gartrefi gofal Cymru.

Ymateb

Wrth ymateb, mae Janet Finch-Saunders, llefarydd gofal cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud y byddai cau cartrefi gofal yng Nghymru’n “dorcalonnus”.

“Os daw’r rhybudd difrifol yma’n wir, fe fyddai’r effaith ddynol yn dorcalonnus i breswyliaid, eu teuluoedd a gweithwyr cartrefi gofal yma yng Nghymru,” meddai.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhyw £40m i’r sector gofal cymdeithasol oedolion, ond dydy cartrefi gofal ddim eto wedi gweld hyn yn cael ei wireddu.

“Mae pobol yn y sector – yn berchnogion cartrefi gofal ac yn staff – dw i wedi siarad hefo nhw yn dweud bod angen iddyn nhw dderbyn yr arian rŵan, a bod angen iddyn nhw wybod beth arall fydd Llywodraeth Cymru’n ei wneud i helpu’r sector, oherwydd mae’r posibilrwydd o 300 neu fwy o gartrefi gofal yn anodd meddwl amdano fo.”