Rhaid sicrhau cyllid digonol i wasanaethau sy’n helpu menywod sy’n cael eu cam-drin, yn ôl elusen.

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn pryderu’n benodol am sefydliadau sy’n mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol (VAWDASV).

Gyda Covid-19 yn peri her newydd, mae’n dadlau bod Llywodraeth Cymru wedi methu a darparu “cyllid brys i’w wario’n benodol” ar y gwasanaethau yma.

“Mae gwasanaethau arbenigol yn gweithio’n hynod o galed er mwyn cynnal eu darpariaeth,” meddai Sara Kirkpatrick, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at gyllid yn ei chyhoeddiadau, ond o ystyried sut mae arian yn cyrraedd gwasanaethau VAWDASV dyw rhywbeth ddim cweit yn gwneud synnwyr…

“Mae’n bwysicach nag erioed bod gwasanaethau yn gynaliadwy ac ein bod ni’n gadael neb ar ôl. Rhaid bwrw ati yn awr i ddarparu cyllid hyblyg ychwanegol i’r sector arbenigol VAWDASV.”

Costau ychwanegol

Yn ôl yr elusen, mae arolwg diweddar yn dangos bod 90% o wasanaethau arbenigol Cymru yn wynebu costau ychwanegol oherwydd yr argyfwng sydd ohono.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.