Andy Morrell
Bydd Andy Morrell, sydd wedi bod yn Reolwr dros dro clwb pêl-droed Wrecsam, yn cael aros yn y swydd yn barhaol tan ddiwedd y tymor.

Cafodd ei benodi dros dro wedi i Dean Saunders ymuno efo Doncaster Rovers ac mae Wrecsam wedi ennill 7 o’r 9 gêm ddiwethaf o dan ei arweinyddiaeth.

Yn ôl datganiad ryddhawyd gan y clwb “mae’r canlyniadau sydd wedi eu cyflawni gan Andy, ei staff a’r chwaraewyr yn ystod y naw gêm ddiwethaf wedi bod yn arebnnig”.

Dywedodd Andy Morrell ei fod wrth ei fodd o gael cynnig y swydd. Roedd wedi galw ar Wrecam I ddo a’r holl ansicrwydd i ben yn gynharach yr wythnos ddiwethaf ond roedd yr oedi parhaol ynglyn â chynllun y cefnogwyr i brynu’r clwb wedi gwneud penodi rheolwr llawn amser yn anodd.