Mae Heddlu De Cymru yn annog perchnogion clybiau nos i ddenfyddio technoleg digidol i sganio olion bysedd a thrwyddedau teithio a gyrru eu cwsmeriaid er mwyn atal trais. Mae nhw hefyd yn ystyried gofyn am i fabwysiadu system o’r fath fod yn amod trwyddedu yn y dyfodol.

Mae cwsmeriaid sy’n mynd i’r Ladybird Lounge yng Nghaerdydd esioes yn cael eu trwyddedau gyrru neu deithio wedi eu sganio ac mae ganddyn nhw’r dewis o gael sganio eu olion bysedd fel na fydd angen cyflwyno dogfennau adnabod yn y dyfodol. Mae’r wybodaeth hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddibenion masnachol.

Fe fydd y clwb yn arddangos y dechnoleg i berchnogion eraill mewn digwyddiad yno yr wythnos nesaf.

Dywed perchennog y clwb, Gianluca Malacrino bod y system wedi dod o hyd i tua hanner dwsin o ddogfennau adnabod ffug yn ystod yr wyth wythnos diwethaf, ac mae swyddog trwyddedu yr heddlu yn bendant bod y dechnoleg o fantais er mwyn atal trafferthion mewn clybiau ac ar strydoedd y brifddinas.

“Mae’r systemau yma, yn union fel teledu cylch-cyfyng, cau ffyrdd penodol a phlismona trwy dargedu yn ddim ond rhai o’r ffyrdd y gallwn gadw Caerdydd yn ddiogel,” meddai’r Sarjant Scott Lloyd. “Trwy sganio dogfennau adnabod …gallwn ddarbwyllo y rhai sydd am greu trafferth i ail-feddwl gan atal yfed dan oed ac adnabod troseddwyr. “

Ar y llaw arall mae’r cynghorydd Ed Bridges, sy’n cadeirio Pwyllgor Trwyddedu a Gwarchodaeth y Cyhoedd ar Gyngor Caerdydd yn credu y gall y drefn yma fod yn groes i hanfodion hawliau sifil.

“Yn naturiol gall clybiau ddefnyddio system fel hyn yn wirfoddol, mae hynny yn benderfyniad masnachol ar eu rhan, ond dw’i ddim yn credu y dylai Heddlu De Cymru wneud mabwysiadu’r drefn yn orfodol” meddai.