Mae grŵp o feddygon wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw am wneud teithio i ail gartrefi yn ystod y pandemig coronafirws yn anghyfreithlon.

Yn y llythyr, mae 17 o feddygon o bob cwr o Gymru yn rhybuddio bod teithio diangen fel hyn yn “debygol iawn” o gynyddu presenoldeb Covid-19 mewn ardaloedd gwledig.

Ddydd Llun, Ebrill 20, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod gweinidogion yn ystyried cryfhau’r rheolau ar bobl yn teithio i’w hail gartrefi.

Y Gofynion

Mae’r meddygon, pob un ohonynt yn arwain clwstwr iechyd mewn gwahanol rannau o Gymru, yn galw ar Mark Drakeford i wneud tri pheth:

  • Gwneud defnydd o ail gartrefi yn anghyfreithlon hyd nes i berygl y firws orffen
  • Ymestyn mesurau lockdown ar ardaloedd twristiaeth gwledig poblogaidd yng Nghymru, gan dargedu’n benodol teithio diangen i’r ardaloedd hyn.
  • Rhoi’r pwerau i’r heddlu allu gorfodi y rhai sy’n torri’r rheolau i ddychwelyd i’w prif gartrefi.

“Rydym yn ysgrifennu oherwydd ein gofid cynyddol am gartrefi gwyliau yng nghefn gwlad Cymru,” meddai’r llythyr.

“A’r perygl y gallan nhw ei achosi mewn perthynas â’r argyfwng iechyd cyhoeddus presennol.”

“Mae llety gwyliau yn denu teithio diangen i mewn i ardaloedd cefn gwlad, gan gynyddu’r boblogaeth ac, o ganlyniad, roi pwysau cynyddol ar ein gwasanaethau iechyd lleol.

“Mae’r symudiadau diangen yma yn debygol iawn o gynyddu cyffredinolrwydd Covid-19 yng nghefn gwlad.

“Gall ail gartrefi gael eu defnyddio am gyfnodau hir, unai fel gwyliau neu i hunanynysu, gan gynyddu’r perygl.”

Yn ôl y doctoriaid, mae “posibilrwydd mawr o ail anterth” o’r firws mewn rhannau o ogledd a gorllewin Cymru.

“Rydym yn gwerthfawrogi gwerth economaidd twristiaeth, ond ddim ar draul iechyd ein pobl yng nghefn gwlad.”

Ymddygiad annerbyniol”

Mae ymddygiad pobl sydd yn teithio i’w hail gartrefi yn “annerbyniol” meddai Ken Skates y Gweinidog Economi, trafnidiaeth a Gogledd Cymru,

“Mae’r rheolau a wnaed yn ddiweddar mewn grym” meddai Ken Skates.

“Ac mae’r canllawiau’n glir y dylai pobl aros yn eu prif gartrefi a gadael ar gyfer teithiau angenrheidiol yn unig.

“Nid yw teithio angenrheidiol yn cynnwys teithio i ail gartrefi, ni ddylai pobl fod yn gofyn am breswylio dros dro yn eu hail gartrefi. Mae’r ymddygiad yna’n annerbyniol.

“Mae’r prif weinidog wedi bod yn gwbl glir, pe bai’r heddlu angen pwerau ychwanegol er mwyn gorfodi’r rheolau yma, mi fyddwn ni’n fwy na pharod i’w hystyried nhw.”