Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab, wedi condemnio Llywodraeth Cymru am gael gwared ar ei tharged o gynnal 5,000 o brofion coronafeirws bob dydd.

Roedd yn ateb cwestiynau arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, yn ystod sesiwn PMQs wrth wneud y sylwadau.

“Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig cael targed ac i fwrw tuag at y targed hwnnw,” meddai.

Honnodd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud cynnydd da ar brofion ond bod angen “dweud wrth Weinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, sydd wedi cefnu ar darged Llafur yng Nghymru o 5,000 o brofion, bod yn rhaid i ni weithio gyda’n gilydd ym mhedair cornel y Deyrnas Unedig er mwyn cyflawni’r ymdrech genedlaethol.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates, fod beirniadaeth Dominic Raab yn “annoeth.”

Dywedodd wrth gynhadledd coronafeirws dyddiol Cymru: “Dyw e [Raab] ddim yn iawn i fod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru ac enwi gweinidogion. Mae hon yn ymdrech enfawr.

“Dwi ddim yn gwybod am unrhyw wleidydd o unrhyw blaid sydd ddim yn rhoi ei holl ymdrechion i mewn i oresgyn y coronafeirws.

“Dyw e ddim yn iawn i wneud y feirniadaeth honno. Dyw e ddim yn iawn i’w wneud mewn modd mor gyhoeddus.”

“Mae’r hyn y mae Vaughan Gething wedi’i gyhoeddi yn llygad ei le o ran sicrhau ein bod yn blaenoriaethu’r profion ar gyfer y bobl hynny sydd yn y rheng flaen, y bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed, y bobl hynny sy’n achub bywydau, a dylai Dominic Raab fyfyrio ar hynny cyn gwneud datganiadau cyfeiliornus eraill.”

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 5,000 o brofion bob dydd erbyn ail neu drydedd wythnos mis Ebrill, ond dyw’r targed heb gael ei gyflawni.

Mae gan Gymru’r gallu i gynnal 1,300 o brofion yn ddyddiol. Ddydd Llun (Ebrill 20), nodwyd mewn dogfennau’n trafod y camau nesaf na fyddai’r targed o 5,000 yn cael ei gyrraedd.

Amddiffynnodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y penderfyniad i sgrapio’r targed, gan ddweud ei fod yn credu bod modd ei gyrraedd pan gafodd ei osod fis diwethaf, ond bod amgylchiadau “tu hwnt i’n rheolaeth” wedi golygu nad oedd hynny’n bosib.

Nid Dominic Raab yw’r unig un i ymosod ar Lywodraeth Cymru am hyn, gydag arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn galw gollwng y targed yn “sgandal,” tra bod llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns, wedi cyhuddo’r Llywodraeth o fod yn “anhrefnus” a “di-glem.”

Mae data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dangos bod nifer y profion dyddiol a wneir yng Nghymru yn gyson ymhell o dan yr 1,300 sydd ar gael.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn dal i fod yn bell iawn o gyflawni ei tharged o gynnal 100,000 o brofion y dydd, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Dywedodd llefarydd swyddogol ar ran Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ddydd Mercher bod 18,206 o brofion wedi’u cynnal yn y 24 awr hyd at 9am ddydd Mawrth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, sy’n llai na hanner y capasiti profi dros gyfnod o 24 awr, sef 41,398.

“Dim brys i ddychwelyd i’n ffordd o fyw cyn y pandemig”

Yn y cyfamser, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud wrth Aelodau’r Cynulliad fod “bygythiad y coronafeirws yn bell o fod drosto.”

Wrth siarad yn sesiwn lawn y Senedd, dywedodd: “Yn anffodus, bydd bywydau’n dal i gael eu colli yn y dyddiau nesaf, ac rwyf yn gwybod y bydd pob aelod eisiau cymryd saib am foment i gofio’r 600 a mwy o bobol sydd ddim gyda ni mwyach.

“Bydd penderfyniad i lacio’r cyfyngiadau ddim ond yn cael ei gymryd pan fydd y cyngor meddygol a gwyddonol yn glir bod yr amser yn iawn i wneud hynny.

“Bydd y broses yn un ofalus, pwyllog a graddol – does dim brys i ddychwelyd i’n ffordd o fyw cyn y pandemig.”