Mae tri o bobl yn gwella o fân anafiadau wedi ffrwydriad bychan ar stâd ddiwydianol Lôn Groes ger Gaerwen ar Ynys Môn brynhawn ddoe (Sadwrn).

Achoswyd y tân gan amonia oedd wedi gollwng mewn rhewgell yn un o unedau’r stâd ac fe gafodd y trigolion lleol gyngor i aros dan do efo’r drysau a’r ffenestri wedi cau tan y gyda’r nos ar ôl i beth o’r amonia ddianc i’r awyr iach.

Dyw’r diffoddwyr ddim yn amau bod unrhyw beth amheus ynglyn â’r digwyddiad.

Galwyd ar dair injan dân o Fangor, Llangefni a Chaergybi ac mae’r ymchwiliad i achos y ffrwydriad eisoes ar y gweill.