Mae merch wyth oed o Gaerfyrddin am ddringo uchder Everest i fyny ac i lawr grisiau ei chartref i godi arian ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy’n gofalu am gleifion y coronafeirws.
Mae Niamh McCarthy am gerdded dros 58,000, sy’n cyfateb i 3,871 o droeon i fyny ac i lawr y grisiau.
Fel pe na bai hynny’n swnio’n ddigon anodd, dim ond pan fydd hi’n mynd i fyny’r grisiau, nid i lawr y grisiau, y mae Niamh yn cyfri, felly bydd hynny ddwywaith yr ymdrech!
Mae Niamh eisiau cwblhau’r her mewn mis – sef 2,074 o risiau’r dydd – ac mae hi eisoes wedi codi £776 o’i tharged o £1,000.
“Rwy’n credu y bydd fy nghoesau’n brifo erbyn y diwedd! ” meddai.
“Roeddwn i eisiau ymgymryd â her wirioneddol galed.
“Rydw i wedi dringo Pen-y-fan, ond erioed wedi dringo mynydd mwy.
“Rwy’n gobeithio mynd i Everest un diwrnod, ond tra fy mod adref rydw i’n mynd i’w ddringo ar fy ngrisiau.
“Er mwyn ei gwblhau mewn mis, bydd yn rhaid i mi fynd i fyny ac i lawr y grisiau tua 138 o weithiau y dydd. Rwy’n credu y bydd fy nghoesau’n brifo erbyn y diwedd!”
Cefnogaeth y teulu
Mae Niamh yn cael cefnogaeth gan ei mam Jo a’i brawd bach Rory.
Dywedodd ei mam ei bod mor falch o’i merch, a oedd yn awyddus i wneud rhywbeth i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd a “threchu’r coronafeirws”.
“Dewisodd Niamh y mynydd mwyaf yn y byd oherwydd ei bod eisiau gwneud her galed iawn,” meddai Jo McCarthy.
“Mae hi eisiau helpu’r Gwasanaeth Iechyd ac mae hi ar stepen y drws bob dydd Iau yn clapio i ddangos cefnogaeth.”