Mae Liz Saville Roberts yn credu y dylai penderfyniadau ynglŷn â gwarchae (lockdown) gael eu gwneud ar y cyd rhwng llywodraethau gwledydd Prydain.

Dywed Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd fod yn rhaid i fesurau’r gwarchae warchod “holl gymunedau’r Deyrnas Unedig.”

“Mae’r dystiolaeth yn dangos bod amseriad peak y feirws yn amrywio ar draws y bedair cenedl,” meddai wrth golwg360.

“Byddai rhyddhau mesurau’r lockdown heb i’r holl Lywodraethau gytuno yn gallu achosi problemau mawr wrth i bobol symud o ardal i ardal ac o bosib lledaenu’r feirws eto.

“Yr unig ffordd i sicrhau diogelwch y cyhoedd ydi bod yr holl genhedloedd yn cytuno bod yr amser yn iawn.”

Galw am ymchwiliad annibynnol

Mae Liz Saville Roberts hefyd yn galw am ymchwiliad annibynnol i ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r coronafeirws.

Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig o dan bwysau aruthrol dros y penwythnos wrth i’r Sunday Times honni fod rhybuddion gwyddonwyr ynglŷn â’r feirws wedi cael eu hanwybyddu a bod y prif weinidog Boris Johnson wedi methu pum cyfarfod COBRA.

“I ddechrau, mae hwn yn haint newydd ac mae’n anochel bod proses o ddysgu yn dod gyda hynny,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae’n rhy fuan i ddweud beth sydd wedi methu a beth sydd wedi llwyddo, ond byddwn yn falch o gael tryloywder gan y llywodraeth ar y mater.

“Bydd angen cynnal ymchwiliad, a bydd angen i’r ymchwiliad hwnnw fod yn un annibynnol.”

Rhybudd o’r gorffennol

Mae Liz Saville Roberts hefyd yn awyddus i Lywodraeth Prydain ddysgu gwersi o’r ffliw Sbaenaidd.

“Daeth y ffliw Sbaenaidd yn ôl yn waeth yn yr hydref a dwi’n teimlo y dylem baratoi am y posibilrwydd yna gyda’r coronafeirws gan nad ydym yn gwybod fel arall,” meddai.

“Dylem gymryd y cyfle nawr i ddysgu o’r gwersi rydym yn eu derbyn ar hyn o bryd, mae’n allweddol bwysig bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig gwneud hyn.”